HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

O gopa'r Wrach i gopa Llywelyn 20 Hydref

Cawsom gychwyn addawol pan ddaeth 13 ohonom, ac un ci, ynghyd yn y gilfan cywir yn ôl fy nghyfarwyddiadau bach yn annelwig i, cyn i ni ddringo’r lôn droellog mewn ceir at Lyn Eigiau. Cyn hir roeddem yn gwibio ar ysgafn droed tua’r argae bylchog sydd dal ychydig yn arswydus yr olwg bron 90 mlynedd ar ôl iddi chwalu. Wrth i ni fustachu i fyny’r llethrau grugog at ysgwydd y Wrach dyma ni’n clywed drwy fy ffôn lôn, ein bod wedi methu dau aelod ar y cychwyn, ond drwy ryw rhyfedd wyrth dyma Eirwen ac Alun yn ymddangos allan o’r niwl ar yr ysgwydd mewn amser i gael paned hefo ni! Wrth i’r 15 ohonom, fel ag oeddem erbyn hyn, fynd yn ein blaenau at y copa esgynnem allan o’r clwt o gwmwl i rythu ar yr olygfa ddiguro. Ysbaid bach i dynnu llun ac i lawr â ni at Fwlch y Tri Marchog cyn dringo i ben yr Helgi Du a throedio’n ofalus lawr y grib lem at Fwlch Eryl Marchog i gael cinio haeddiannol. Cawsom hwyl yn damcaniaethu sail enwau lliwgar y cyffiniau cyn mynd ati i ymosod ar lethrau’r pen-fynydd ei hun, Carnedd Llywelyn. Unwaith eto cawsom y wobr o olygfa gwbl wefreiddiol ar y copa cyn i ni fochel am baned bach. Yna daeth wir ogoniant yr hydref i’r amlwg yng ngolau cynnes haul hwyr pnawn wrth i ni ymlwybro lawr y Gledrffordd tua’r llwybr drol yn ôl at y ceir. Ches innau’r pleser o gyrraedd drws y car yn union ar yr amser ro’n wedi darogan – Siân ar amser am unwaith!!

Diolch yn fawr i Anita am ei chefnogi yn ogystal ag Edward am y lluniau ac i Gwyn, Eifion, Iolo, Elen, Gwen, Eirwen, Alun, John Arthur, Gwilym, Cliff am eu cwmni diddan. Croeso arbennig i Elin a Catrin – 3 copa mewn un diwrnod! Fedrwn ni ddim gaddo tywydd cystal bob tro ond gwnawn ein gorau o rhan y cwmni!

Adroddiad gan Siân

Lluniau gan Edward ar FLICKR