Ardudwy 18 Ebrill
Taith priodas aur Geraint a Meira
        
      Lluniau gan Gerallt Pennant a Haf Meredydd ar FLICKR
“Mor annwyl yw Meirionnydd”
        
        Ar y daith
        Gerallt a Haf,  Anet, Gwen (Aaron), Gwen (Richards), Arwyn, Gwyn a Linda, Iona, Dei a Cheryl, John  Llew ac Irene, Gareth a  Margaret (Tilsli),  John (Parry), John (Williams), Rhys Llwyd, Geraint a Meira, Gwynfor  (Talsarnau), Ray (Owen), Dai (Lloyd)
Adroddiad  Geraint Percy
        Hanner can  mlynedd i eleni y cartrefodd Meira a minnau yn Ardudwy a thra’n byw yn Harlech  a Llanbedr a Phentre’ Gwynfryn ac yna Tal-y-bont y dechreuodd ein diddordeb ni  mewn mynydda. Buom mor ffodus â threulio un mlynedd ar ddeg yn y rhan hyfryd  hon o Feirionnydd a dychwelwn i grwydro’r Rhinogydd yn bur amal. A minnau’n  hanu o’r un ardal â John Eilian, y prifardd a gipiodd y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol  Dolgellau yn 1947 am ei bryddest ar y testun “Meirionnydd”,  y mae’n ddiddorol ein bod yn rhannu ein  cariad tuag at y sir – ac yn fy achos i, at Ardudwy yn arbennig. 
        
        Gwyn ei fyd y gwr, yn y tir ddiddwndwr,
        A wyr ei gyfran o gyfrinach y fan. . . 
        . . .  Yma yng nghreigwedd wirionedd  y bryniau
        Mae eto fyd sydd yn  breswyl i’r ysbryd.
        
        Pan ddeallodd  Criw dydd Mercher y Clwb y byddem yn dathlu ein priodas aur ar Ebrill y  deunawfed bu iddynt yn annwyl iawn awgrymu ein bod yn trefnu taith ar y diwrnod  hwn ac yn naturiol  yn Ardudwy yr oedd  hyn i ddigwydd. Tal-y-bont oedd y man cychwyn mewn maes parcio cyfleus ar lan  afon Sgethin.
        
        Y dydd Mawrth cyn  y daith digon bygythiol oedd y rhagolygon tywydd ac wrth ddeffro yn blygeiniol  ym Mangor, daeth llinellau cywydd o waith un o feirdd Ardudwy yng nghyfnod  Beirdd yr Uchelwyr i’m meddwl. Fferm Mochras oedd cartref Sion Phylip ac ym  mynwent Llandanwg y’i claddwyd  yn 1620  ac yntau wedi boddi ger Pwllheli wrth ddychwelyd o daith glera ym Môn ac  Arfon.  Canodd ei fab, Gruffudd, englyn  crefftus iddo  ac o’i ddarllen yn uchel  gallwn deimlo a chlywed symudiad y rhwyfau   wrth i’w gorff  gael ei gludo  drosodd i’r fynwent yng nghanol y tywod ar lan y môr. 
        
        O fwynion ddynion bob ddau  -  cyfarwydd,
        Cyfeiriwch y rhwyfau:
        Tynnwch ar draws y tonnau
        A’r bardd trist yn ei gist gau.
                                                                                               
        Yr oedd Sion Phylip yn fardd teulu i Fychaniaid Cors-y-gedol. Dyma sut y  disgrifia’r wawr yn torri  yn ei gywydd  i’r Wylan –
        
        Dyddhau a wnaeth ar draeth drain
        Dydd oer o’r deau ddwyrain.
        Nithio gro a wnaeth  hagr wynt,
        Noethi cerrig, nyth corwynt.
        Lliw inc  fu gylch llyncfa gwynt,
        Lle anadl gorllewinwynt.
        
        Yn ffodus i’r tri  ar hugain a gychwynnai ar hyd Lôn Tyddyn-y-felin i gyfeiriad Eithinfynydd am  ddeg o’r gloch yr oedd y tywydd yn sych er yn oer. Yr wythnos flaenorol, a  Meira a minnau’n chwilio’r daith i ofalu bod pob giât yn agor a phob camfa’n  gamadwy ac i osgoi  dringo a chwalu  unrhyw wal gerrig, yr oeddem wedi cael sgwrs annwyl, llawn atgofion gyda Bethan  a Hefin ac un o’r meibion ar fuarth Eithinfynydd. Cofiais am gywydd hyfryd  Dafydd ap Gwilym, “Y Fun o Eithinfynydd”, ac er mai â’r ardal rhwng Dolgellau a  Llanuwchllyn y mae ‘ysgolheigion’ yn cysylltu’r ffarm, y mae fy ffansi i bob  amser yn cysylltu’r  ferch hon y  syrthiodd yr athrylith o fardd  ac  athrylith o garwr â hi â ffarm Eithinfynydd yn Ardudwy. 
        
        Y fun o Eithinfynydd,
        F’enaid  teg, ni fyn oed dydd.
        Feinion  aeliau, fwyn olwg,
        Fanwallt aur, fuanwyllt  wg,
        Fy  ngwynfyd rhag trymfryd tranc,
        Fy  nuwies addwyn ieuanc,
        Fy  nrych, llewych mewn lliwaur,
        Fy  rhan yw, fy rhiain aur,
        Fy swllt dan fynwes elltydd,
        Fy  serch ar hon fwyfwy sydd.
        
        Mae’n wyrth  meddwl cymaint o ystyr y llinellau uchod,a ganwyd yn y bedwaredd ganrif ar  ddeg, y gallwn ni ei ddilyn heddiw.  Prin  y gellid honni’r un peth am un llenyddiaeth arall yn y byd.
        
        Gallai’r daith  hon gyda’r Clwb Mynydda yn hawdd droi’n daith Cylch Llenyddol a gallai yr un  mor hawdd fod yn daith archaeolegol.  Ni  chredaf fod unrhyw ardal ym Mhrydain – ar wahan i Ynysoedd Erch ( yr Orcni)  efallai – y mae cymaint o olion cartrefi dyn yng nghyfnodau cyn-hanes i’w  gweld. Yn union o dan ffarm Eithinfynydd ceir enghraifft wych o  amgau-le neu fryngaer. Yn nes ymlaen ar ein  llwybr, cafodd Gerallt le bendigedig i arfer ei sgiliau creadigol gyda’i  gamera  wrth hen furddun  y deil cymeriad iddo .  Ychydig o ddringo oddi yma ac yr oeddem ar  fryngaer drawiadol Pen-y-dinas  lle y  cawsom i gyd brofi  tamaid o’r gacen  ddathliadol yr oedd Meira wedi’i darparu.
        
        Dros ddau gant o flynyddoedd yn ôl, bu Pennant  arall, Thomas Pennant, ar daith yma. Castell Dinas Cortin oedd ei enw ef ar y  gaer. Yn 1919 cloddiwyd y safle yn fanwl iawn gan archaeolegydd o’r enw Crawford. Bu caer yma, mae’n debyg,  o gyfnod tua saith canrif cyn Crist ac fe’i helaethwyd yn y cyfnod yn union cyn  i’r Rhufeiniad oresgyn y wlad. Oherwydd y safle amlwg credir i’r gaer fod yn  bwysig yn yr Oesoedd Canol. I’r de o’r  safle y mae Ceunant Egryn  a throsto â  olion enwog Carneddau Hengwm â ni yn ôl dair mil a hanner o flynyddoedd cyn  Crist. Mae’n syfrdanol meddwl fod y darn hwn o dir y bu gwartheg duon Moses  Gruffydd - tad Dr  R Geraint Gruffydd ac awdurdod mawr ar  amaethyddiaeth - yn ei bori ac yntau yn  byw yn Egryn, wedi cael ei “ffarmio” am dros bum mil a hanner o flynyddoedd.  Perthyn i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol y mae Egryn heddiw. Fe’i codwyd yn  wreiddiol yn yr unfed ganrif ar bymtheg. Ar fin y lôn cyn cyrraedd y plasty  bychan o gyfeiriad Tal-y-bont, gwelwn  hen gapel Egryn a golwg ddi-raen iawn arno. Mor wahanol oedd o yn 1904 yn adeg  y Diwygiad pan welwyd “golau” uwch ei ben. Fel hyn y cyfeiria T H Parry-Wiliams  at y ffenomena:
        
        Cariadon y Crist a glewion yr Ysbryd Glân 
        Yn  gweled yng “ngolau Egryn” eu Duw yn dân”.
        
        Gallem fod wedi  treulio gweddill y dydd yn archwilio’r gaer yng nghwmni Dr John Llywelyn  Williams, arbenigwr yn y maes  a chyfaill  oes i mi a’r “gwas” a drosglwyddodd y fodrwy i mi yng Nghapel Holloway yn 1962,  ond rhaid oedd prysuro a dringo’r ffriddoedd i gyfeiriad Bwlch y Rhiwgyr. Yma  ni dderbyniodd neb yr her i chwilio am yr ogof yr honnir bod ynddi drysor o aur  yn y llecyn y gellir gweld simnai Sylfaen a chlochdy eglwys Llanenddwyn oddi  arno. Ond fe dalwyd teyrnged i  un o  gewri byd mynydda yng Nghymru. Ar Fwlch y Rhiwgyr ac yntau yn blentyn tuag un  ar ddeg neu ddeuddeg yr heuwyd hedyn obsesiwn Ioan Bowen Rees gyda bylchau .  Gwell dyfynnu ei eiriau ef yn ei ysgrif “Dau Fwlch” yng nghyfrol Nadolig 1987 y  cylchgrawn Taliesin.
        
        “Fy nhad a’m difethodd gyntaf – gwneud imi gymryd yn ganiataol y buasai  rhywun i ddisgwyl amdanaf ac i’m hebrwng adref ym mhen draw pob taith hir ar  draws y mynyddoedd : o Oerddrws i Islaw’r-dref, o Lanbedr yn Ardudwy i  Lanelltyd, o Gerrigydrudion i’r Ganllwyd, o Gapel Curig i Groesor. Arno ef  hefyd y mae’r bai am hau hedyn fy obsesiwn gyda bylchau. Ar Fwlch y Rhiwgyr y  bu hynny, wrth fynd o’r Bermo i’r Bont-ddu ar hyd Llawllech. Dyna’r tro cyntaf  erioed imi gael blas ar daith hir ar droed. Wrth i’r olygfa ddod i’r golwg yn  ffrâm y bwlch – yr Wyddfa a Moel Hebog a phenrhyn Llyn, Ardudwy a Mochras a’r  môr ac Enlli – dyfynnodd fy nhad o soned Keats : “Then felt I like some watcher of the skies . . . “ . Athro Saesneg  oedd fy nhad wrth ei alwedigaeth. Ni soniodd y tro hwnnw am Adar Rhiannon ‘yn  yn perl gynteddoedd / sy’n agor ar yr hen anghofus fôr’. Ond yn ei achos ef, ac  yn fy achos innau, arweiniodd ar gariad tuag at y mynyddoedd, tuag at Gymru, a  tuag at yr anweledig gôr sy’n canu i arloeswyr a phererinion.”
        
        Cofiai Rhys Llwyd  yn dda dad Ioan Bowen Rees yn dysgu Saesneg iddo yn Ysgol Dolgellau a chafodd  mintai fach ohonom fwyta ein cinio a gwrando ar Gareth  a Margaret (Tilsli )yn adrodd yn hyglyw soned  fawr Keats yn yr union fan ag yr adroddodd y tad diwylliedig hi i’w fab  hydeiml.
        
        O ben y Bwlch  dewisodd Margaret, Linda a Meira ddilyn y llwybr sydd yn rhan o Ffordd Ardudwy  i lawr at Bont Fadog a Llety Loegr ac yna trwy’r coed bendigedig gyda glan afon  Sgethin ac yn ôl i Dal-y-bont. Ac yno yn nhy Margaret a Gareth, mwynhaodd y  tair egwyl ymlaciol, bleserus. Dilyn y llwybr clir yng nghysgod wal gerrig  grefftus tua’r gogledd ar hyd Llawllech wnaeth y gweddill ohonom cyn disgyn i  gyfeiriad y bont ryfeddol yn unigedd Ardudwy. Ar ymyl y llwybr hwn gosodwyd  carreg  gan Esgob Caerwynt i gofio ei  fam, gwraig o’r enw Janet Haigh a arferai ddringo’r llethr a hithau dros ei  phedwar ugain ac yn rhannol ddall. Dyddia Pont Sgethin yn ôl i’r unfed ganrif  ar bymtheg ac ar un amser bu cryn dramwyo drosti gan y porthmyn. Llawenydd oedd  clywed fod cynlluniau ar y gweill i gael gwared ar y concrit a ddefnyddiwyd i’w  hatgyweirio dros y blynyddoedd ac yr adferir hi i’r hyn ydoedd ddegawdau’n ôl.  Bu cryn oedi ar ganllaw’r bont ac ar lannau’r afon fach er mwyn i Gerallt gael  ein gosod dan ei lygaid craff yn ôl maint a lliwgarwch ar gyfer llun arall  swyddogol. Oddi yma at Lety Lloegr bu i lawer ohonom elwa ar wybodaeth leol  fanwl Haf o hanes y murddunod o fewn golwg ac o arferion y porthmyn.
        
        Y mae’r llwybr  sydd yn dilyn afon Sgethin o Lety Lloegr i lawr i Dal-y-bont yn sicr yn un o’r  llwybrau mwyaf cyfareddol y gellir ei gael. Ar derfyn ein taith cyhoeddodd Gwen  (Richards) mai deng milltir union a gerddasom. I Meira a minnau bu’n daith  llawn atgofion bendigedig yn ein hen gynefin yng nghwmni  ffrindiau cywir a hwyliog y cawsom  gyd-gerdded â hwy dros gannoedd o filltiroedd yng nghwrs y blynyddoedd. A braf  hefyd oedd croesawu ffrindiau newydd i’r Clwb ar y daith.
        
        Ond nid pentref  Tal-y-bont oedd diwedd cyfaredd y diwrnod. Gwahoddwyd pawb i alw draw yn nhafarn y Fic ym mhentref  Llanbedr cyn troi tuag adref. Mae rhai o’r lluniau a dynnwyd yno yn dangos yn  glir pa mor emosiynol oedd y profiad i Meira a minnau pan gariodd Arwyn  gacen anferthol i’r bwrdd. Diolch o waelod  calon i’r rhai a drefnodd hyn a diolch i chwi i gyd am eich cefnogaeth a’ch cwmnïaeth. Anghofiwn  ni byth eich caredigrwydd.
        
        Yn y ddeunawfed  ganrif canodd bardd o Fôn, Lewis Morris, fawl   i’r sir yn ei “Caniad y Gog i Feirionnydd”. Fel y tystia pennill cyntaf  y gerdd hyfryd hon, nid yw’r sir wedi newid:
        
        Er a welais dan y sêr
        O lawnder  glewder gwledydd,
        O gwrw da a gwyr i’w drin,
        A  gwin ar fin afonydd, -
        Gorau bir a gorau bwyd,
        A  rannwyd i Feirionnydd.
Geraint Percy - a Meira
