HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Llwybrau'r Llechi 17 Hydref



Cychwynnodd deunaw ohonom o safle hen orsaf Rhostryfan ar fore gwyntog ac er ei bod yn wlyb dan draed buom yn lwcus i beidio a chael mwy nag ychydig funudau o law. Aeth y daith a ni ar hyd llwybrau’r llechi, tros Foel Tryfan a Moel Smytho cyn dychwelyd ar hyd hen lein y Bryngwyn i Rostryfan. Ar y ffordd roedd sawl hysbysfwrdd yn cynnwys gwybodaeth am yr ardal, cawsom gip ar safle hen gapel Hermon Rhosgadfan a syndod oedd gweld llond gardd o alpaca yn pori’n braf.

Roedd Mair o Lansadwrn a Geraint o’r Bontnewydd efo ni am y tro cyntaf. Yr ail dro oedd hi i Arwel a siomwyd yn arw ar ol cael coffi cyn cychwyn a chwrw ar ddiwedd ei daith gyntaf, o ddeall nad oedd na phaned na pheint ar gyfyl y daith yma.

Hefyd yn y cwmni roedd Gwen Aa, Gwen R, Haf, Rhian Llangybi, Ann Till, Gwilym Jackson, Gwyn Chwilog, Dewi Aber, John W, John P, John Arthur, Twm Glyn, Arfon, Arwyn a finna, Anet.

Adroddiad gan Anet

Lluniau gan Haf ar FLICKR