HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Cylchdaith Cwm Llan 14 Ebrill

Deg ohonom a ddaeth ynghyd ar fore braf, ond digon oer, ym maes parcio Bethania – Alun, Chris, Dyfed, Edward, Eifion, Eirwen, Elen, Gwilym, Iolo a Richard.

Cerdded yn ddygn a thynnu cotiau yn yr haul cynnes cyn cyrraedd hen waith copr Y Lliwedd. Yn ein blaenau i'r bwlch cyn troi am y dwyrain at gopa Gallt y Wenallt. Yn dilyn paned a thendio ar Elen – sgidia newydd! - i fyny ac i lawr tri chopa'r Lliwedd yng nghwmni ambell bluen eira cyn oedi am ginio ym Mwlch y Saethau.

Esgyn yn serth i gyfeiriad copa'r wyddfa a mwynhau paned yno ymhlith cannoedd o ymwelwyr eraill; y mwyafrif wedi cyrraedd ar y trên neu ar hyd llwybr Llanberis.

Ar ddechrau'r daith, roedd sôn am ymestyn y daith i gynnwys Yr Aran ond ni fu crybwyll am hynny erbyn i ni gyrraedd Chwarel Bwlch Llan! – 'diolch byth' meddai ambell un. Daeth y glaw cyn i'r criw ailymuno â llwybr Watkin ac erbyn i ni gyrraedd y maes parcio, roedd llethrau uchaf yr Wyddfa dan haen lân o eira.

Taith sylweddol o ymron i 12 milltir ac esgyniad o 4800 troedfedd.

Diwrnod da, cwmni da.

Diolch i bawb am eu cwmni difyr.

Adroddiad Richard Roberts

Lluniau gan Richard ac Edward ar FLICKR