HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Cwm Croesor 12 Rhagfyr

Criw sylweddol yn cychwyn i fyny'r llwybr rhewllyd ond sych, i dramffordd Rhosydd.  Oedi am baned, ac anghofio'n llwyr am weld inclein ac olwyn wagenni lawr i'r cwm!!

Rheinallt H a Bert J yn mynd am Lyn yr Adar a’r Cnicht, a’r lleill ymlaen at argae Llyn Cwm y Foel.  Dros Moel GS, a da iawn Gwen A am yr ateb cywir i'r pos, sef Gary Speed (yma clywais y newydd trist am ei farwolaeth ym mis Tachwedd 2011).  Cinio wrth yr argae, yn yr haul.  I lawr darn serth efo'r nant ac i'r llwybr uwchben pwerdy hanesyddol Cwm Croesor ar ochr y Cnicht.  Ymuno â'r hen dramffordd yn ôl i'r maes parcio, a phaned i rai yng Nghaffi'r Garreg; dal yn sych.  Yn bresennol fel dosbarth 1!!  Gwen A, Anet, Gwyn W, Gwil a Gwenan, Ann T,  Ken a Rhian R, Arwyn J, Huw M,  John P, Haf, Arfon J, Rheinallt, Bert J, Elen W, Fiona G, Gwen R, Gareth T, Alun R, John Arthur, MPR, Rhiannon Owen, John W.

Adroddiad: John Williams + 5 llun (isod)

Lluniau gan John a Haf ar FLICKR