HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Cemaes i Borth Amlwch 12 Medi

Criw o ddeg oedd 'na i gerdded rhan o lwybr arfordir Môn (a llwybr arfordir Cymru) dydd Mercher 12 Medi.
Ar ôl dal bws o'r Coop, Amlwch i Gemaes, roedd hi'n amser ’panad cyntaf yng nghaffi bach cymuned Cemaes.

Ar ôl gadael y pentre, roedd 'na ychydig o gerdded ar dywod, a chlogwyn i’w ddringo cyn pasio eglwys fach Llanbadrig, ac Ynys Badrig yn y lli. Wedyn cerdded ymlaen i Lanlleiana, hen waith porslen. Ar ôl cerdded i lawr allt serth roedd hi'n amser ail ’panad, neu ginio cynnar i rai. I fyny eto at Ddinas Gynfor, pwynt mwyaf gogleddol Cymru, ac ymlaen i gael hyd i hen waith brics Porth Wen, a dilyn llwybr answyddogol i lawr allt serth i adfeilion yr hen le. Erbyn hyn roedd hi'n glawio'n drwm; esgus da i gael cinio dan do yn yr hen odynnau siâp cychod gwenyn.

Ar ôl cinio, dringo allan, a cherdded ymlaen heibio hen dŷ anghysbell Castell, lle’r oeddem yn gwneud gwaith ffermwyr yn achub dafad oedd wedi mynd yn sownd mewn weiren bigog ac wedi torri ei choes. Job anoddach oedd trio cysylltu efo'r ffermwr go iawn, ond llwyddwyd. Ar ôl y gwaith, roedd hi'n amser panad eto ym Mhorth Llechog. Wedyn, mi wellodd y tywydd mewn digon o amser i bawb (heblaw am un dyn bach a syrthiodd i fewn i afon felen!) sychu cyn diwedd y daith yn Nhafarn yr Adelphi, Porth Amlwch. 7.5 milltir ar y rhaglen, 8.7 milltir ar degan newydd yr arweinydd!


Adroddiad gan Gwen Richards

Lluniau gan Haf ar FLICKR