HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Taith i 'Ben yr enfys' - Dyffryn Conwy 10 Tachwedd

Daeth pump o hogiau dewr at ei gilydd i herio'r elfenau ac ymlafurio drwyr mwd, baw a biswail. Heibio Eglwys Llengelynnin , Caer Fach a Maen y Bardd i Fwlch y Deufaen cyn disgyn yn gyflym o Garreg Fawr i Lanfairfechan. Dringo'n serth wedyn at Gylch Cerrig Penmaenmawr ac yn ol i gyferiad Pensychnant hefo'r enfys yn dangos y ffordd. Diwrnod atmosfferig.Diolch i Dylan Huw, Gwyn R, Gareth 'Rynys a Penri { Big Hoss} am eu cwmni..

Adroddiad a gan Arwel Roberts

Lluniau gan Arwel Roberts ar FLICKR