Llangwm 9 Mai

Pedwar ar ddeg yn cyrraedd pentref Llangwm ar fore heulog, cynnes a’r awyr yn las: Ann, Gareth, Gwen A, Gwen R, Gwyn Chwilog, Haf, John Arthur, John Port, John Williams, Meira, Rhys, Dewi Roberts, Raymond a Gwen E yn arwain.
Heibio Bron Llan ac i fyny tua’r Orddu lle dechreuodd y  glaw.  I lawr i’r bwlch ac yna i fyny  tua’r piler ar Foel Goch.  Cael ychydig o  gip ar yr olygfa ond anodd oedd gweld y pump o lynnoedd sy’n amlwg ar ddiwrnod  clir.  Y glaw yn parhau.  Cinio wrth y Garnedd Faw, cyn disgyn i’r cwm  wrth y Greigwen, ymlaen trwy fuarth Aeddren Isaf lle’r oedd y ffermwr yn  cyfaddef mai dyma’i brofiad cyntaf erioed o gerddwr ag ymbarél (eiddo  Haf).  Mwy o law.
        
      Dros yr afon a chael cyd-gerdded â Bethan (sy’n byw yn ymyl)  oedd wedi’n clywed ni’n dod ers meitin.   Roedd clychau’r gog yn llwyn Garthmeilio yn eu blodau, a’r llwyni  rhododendron amryliw hefyd, y Foel Goch i’w gweld mewn niwl tew erbyn hyn.  Ar ôl cyrraedd Llangwm aeth y mwyafrif i’r  Country Cooks am baned, a theisen, a sychu a daeth Margiad, sy’n aelod o CMC,  atom am sgwrs.  Diolch i bawb am  ddŵad.  Er gwaethaf y glaw mi fwynheais i’r cwmni’n arw. 
Adroddiad Gwen Evans
        
      Lluniau gan Haf Meredydd ar FLICKR
Llun o'r gorsfrwynen ddu (Schoenus nigricans) hefyd gan Gwen yn y casgliad
