HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Betws y Coed, Rhiwddolion a Llyn Elsi 8 Chwefror

Criw o 18 ohonom yn cychwyn ger gorsaf Betws-y-coed ar fore braf, tros Bont y Pair a dilyn afon Llugwy nes croesi'r 'Miners' a'r A5. Dilyn llwybr drwy'r coed cyn ymuno â hen ffordd Sarn Helen, yna i hen bentref Rhiwddolion. Paned wrth yr ysgol/capel a golwg ar weddill y pentref cyn ail-ymuno â Sarn Helen am 'chydig a'i gadael am ffordd y goedwigaeth nes dod i groesffordd fferm Pant yr Hyddod. Cinio ac ymlaen o amgylch Llyn Elsi gan oedi wrth y gofadail i edmygu'r olygfa o'n cwmpas.

Dychwelyd drwy'r coed heibio'r eglwys i'r man cychwyn a phaned haeddiannol i derfynu.

Adroddiad gan Eifion

Lluniau gan Haf ar FLICKR