HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Y 14/15 Copa 1 Gorffennaf

Doedd yr argoelion tywydd ddim yn ffafriol, ond mi aed amdani ar y bore Sul, 1 Gorffennaf - y gorau o'r ddau ddiwrnod yn ôl y bobol tywydd. 7 yn cerdded a finne (Rhys) yn cefnogi o'r car.

Cychwynnodd 8 o'r Orffwysfa, Pen y Pass am 3.30 a hithe'n lleuad lawn braf, a dim gwynt i sôn amdano. Rhwng Carnedd Ugain a'r Wyddfa mi dorrodd storm o wynt a glaw eger iawn, ac mi ddilynodd honno'r daith nes cyrraedd y Glyder. Cafwyd sawl cyfle i sgio mwd peryglus wrth ddod i lawr i Nant Peris, a thynnodd Marc Williams, Pwllheli ei benglin. Bu'n rhaid iddo fo droi'n ôl wrth gychwyn i fyny'r Elidir, efo Nathan Price yn gwmni.

Aeth 5 ymlaen hyd at Lyn y Cwn, yn wlyb domen ac yn oer, gan golli awr o amser o leiaf. Yn fanno, mi benderfynodd 3 adael y daith, a thorri i lawr heibio'r Twll Du i Ogwen erbyn tua 1.45 y pnawn - sef Llyr Smallwood, Ifan Rhys ac Ifor Gruffydd.

Mi aeth Iolo Roberts a Marc Williams, Llandrillo ymlaen yn y gwynt dros y Glyderau a Thryfan, cyn penderfynu gadael y daith yn Ogwen am 3.15 a'r tywydd yn cau i fewn eto.

Doedd hi ddim i fod yn anffodus, a'r tywydd yn filain iawn. Mae son am roi cynnig arall arni pan fydd y tywydd yn setlo. Dw iinne (Rhys) yn edrych mlaen i wella digon i droi allan yn hamddenol, felly lwc owt yn y man!

Adroddiad gan Rhys Dafis