HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Nepal Tachwedd 2011


Fel rheol cyfnod sych a'r awyr yn glir yw mis Tachwedd yn Nepal, ac mae'n bosib mai dyma pam y trefnodd Morfydd a John Parry daith yno i 26 ohonom yn ystod y cyfnod yma. Mae Morfydd yn gyfaill i Kamal, brodor o Nepal sydd wedi gwneud y trefniadau iddi sawl gwaith o'r blaen. Doedd pawb ddim yn cyrraedd yr un pryd, ugain ohonom yn hedfan i Kathmandu ar yr 8fed o Dachwedd a chwech arall yn ein dilyn o fewn yr wythnos.

Hwn oedd y tro cyntaf i mi fynd i Nepal ac yr oedd cyrraedd Kathmandu yn brofiad i'w gofio. Y traffig caiotig a'r blerwch oedd yr argraff gyntaf ond cawsom gyfle i ymweld rhai o'r temlau a'r stwpa fwyaf yn Asia hefyd cyn cychwyn ar y trec.

Cychwyn cerdded ar ôl ryw awr neu ddwy o daith yn y bws i dreflan Sundarijal ar gyrion Kathmandu. 'roedd y tywydd yn boeth a chwyslyd ar y cychwyn a'r llwybr yn weddol hawdd i'w gerdded ac yn dringo yn raddol heibio i amryw o dai'r brodorion a'u cnydau allan yn sychu. Cyrraedd y lloches (Gwesty?) yn Chisapani ychydig cyn iddi dywyllu a'r tywydd yn dirywio. Golygfeydd da oddi yma i gyfeiriad Everest medda nhw, yn anffodus welwyd ddim llawer o'r golygfeydd am ryw dridiau gan y bu rhaid cerdded yn y niwl a'r glaw man. Cyn cychwyn 'roeddwn i yn eithaf pryderus beth fyddwn ni yn cael i fwyta, ond dechrau da yn Chisapani, chips a chawl Tomato i swper. Ar y rhan gyntaf yma o'r daith 'roedd angen cerdded am 4 diwrnod cyn croesi Bwlch Laurebina i Gosain Kund. Gwisgo'n dillad glaw rhan fwyaf o'r amser yma, y llwybr yn ddigon diddorol ond yn wlyb a llithrig. Cytiau cysgu yn eithaf cyntefig ond y cwmni yn ddifyr, pawb yn swatio ger y stôf i gynhesu a sychu eu dillad. Bag cysgu cynnes yn hanfodol gan fod y tymheredd yn oeri yn sydyn ar ôl i'r haul fachlud. Erbyn hyn 'roedd yr uchder yn cael effaith ar ambell un ohonom. Bu raid i ni godi'n gynnar ambell i fora ac 'roedd angen cerdded yn bwyllog am 10 awr ar y pumed diwrnod i fynd dros y bwlch. Yn ffodus 'roedd y tywydd yn gwella a'r mynyddoedd i'w gweld yn eu gogoniant. Mae'r llynnoedd yma yn ardal Gosain Kund yn sanctaidd i'r Hindŵ ac maent yn dod yma yn eu miloedd i ymdrochi pan fydd y lleuad yn llawn ym mis Awst. Dau ddiwrnod eithaf difyr yn cerdded i lawr wedyn i bentref Thulo Shyaphru. Y brodorion a'r plant bach yn gyfeillgar a chroesawus, cael cyfle i fwynhau bywyd y pentref. Ar y seithfed diwrnod yr oeddem i gyfarfod y criw oedd wedi hedfan wythnos ar ein holau. Cafodd y criw brofiadau cofiadwy wrth deithio yn y bws i bentref Shyaphru 'roedd tirlithriad wedi cau'r ffordd a chafwyd dipyn o antur i gyrraedd y pentref. 'Roeddem yn ffodus felly bod pawb wedi cyfarfod e'u gilydd ar yr amser disgwyliedig ar ddechrau llwybr Langtang. Dilyn y llwybr yma am ddau ddiwrnod i bentref Kyanjin Gumba oedd ryw 5 milltir o'r ffin hefo Tibet. Y llwybr yn codi o ryw 1500 m i 3870 m ac yn agos i'r afon a thrwy'r coed ar y cychwyn. Y coed yn prinhau wrth ddringo a'r golygfeydd o fynyddoedd yr Himalaya yn odidog. Fy nod personol i oedd cyrraedd copa Tserko Ri (5000m bron) a bu raid codi'n gynnar a bwyta brecwast allan yn yr oerfel cyn cychwyn cerdded tua 6:30 am. 'Roedd criw bychan wedi penderfynu mynd i fyny'r mynydd ar lwybr mwy uniongyrchol a chael mwy o amser yn eu gwlâu a chriw bach arall ddim am fynd i'r copa. Cyrraedd y copa tua 12:15 pawb yn hynod o falch o fod yno. Y wobr o gerdded i'r copa yn bwyllog yn werth chweil, golygfeydd bythgofiadwy o Langtang Lirung 7227m i'r gogledd a Kangja La i'r de. Ffarwelio a'r 18 oedd am geisio dringo i ben Naya Kanga (5857m) a mynd ymlaen tros fwlch Kangja La y diwrnod canlynol. Wyth ohonom yn mynd yn ein holau mewn deuddydd i Shyaphru a chael bws oddi yno ôl i Kathmandu, 'roedd y tir lithriad wedi ei glirio erbyn hyn. Gobeithio y bydd yna adroddiad gan yr un deg wyth. 'Roeddwn yn eiddigeddus iawn yn eu gweld yn mynd, ond yn meddwl y byddai'r antur yn ormod i feidrolyn hynafol fel fi.

Fe dreuliodd yr wyth ohonom weddill y gwyliau yn Pokara; dinas ddifyr yn agos i fynyddoedd Annapurna. Treulio un noson mewn gwesty ger mynydd bach (bryn yn nhermau Nepal)a chael ein deffro ben bore i weld yr haul yn codi a disgleirio ar fynyddoedd Anapurna. 'Roedd pawb wedi dod a'i gamera i gael llun o'r olygfa unigryw, pawb ond Huw oedd mewn camgymeriad yn y tywyllwch (wrth godi) wedi dod a'i rasel drydan yn hytrach na'r camera.

Trip i'w gofio, diolch i Morfydd a John ac i'r holl gludwyr (rhai yn eu sandalau) am gario ein paciau trwm.

Adroddiad Gwyn Williams

Lluniau gan John Parry i'w gweld YMA

Lluniau gan Alun (Camera) Hughes i'w gweld YMA