Bro Gwyr 20-22 Mai

Cafwyd penwythnos ardderchog mewn llety braf ar fin y traeth ym Mhorth Einon, Penrhyn Gwyr.
        Taith i'r cerddwyr ar y dydd Sadwrn o'r hostel tua'r gorllewin cyn belled â Rhosili, gan fynd heibio'r gofeb i dad Llew ap Gwent. 
        
        Ar y dydd Sul cafwyd taith tua'r dwyrain, gan ddringo i Gefn Mawr a galw heibio Maen Arthur. Diolch i Bruce am arwain.
        
      Diolch i Guto am y trefniadau trylwyr.
Adoddiad gan Haf
Lluniau gan Haf a Sioned ar Fflickr
      
      
        
        
      
      
