HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Yr Alban 19-26 Chwefror


Mae'n debyg mae'r tywydd gwaethaf i ni gael yn yr Alban am spel. Hefo'r rhagolygon y tywydd yn gaddo gwyntoedd 50 milltir yr awr yn cryfyhau i 80 milltir yr awr roedd yn anodd mentro allan ambell ddiwrnod. Beth bynnag fe wnaethom lwyddo i gyrraedd 13 copa yn rhestr yr enwog Mr Monroe. Yn anffodus oherwydd y niwl, y gwynt a'r glaw roedd pob un yn edrych yr un fath! Hei lwc am well tywydd y tro nesaf.

Diolch i Dylan am mordwyo mor gywrain ac i Marion am ein symbylu pan oedd ein brwdfrydedd yn gwegian.

Adroddiad gan Arwel

Lluniau gan Arwel ar Fflickr