HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Y Cnicht a'r Moelwynion 19 Tachwedd


Croeso yng Nghroesor!

Er bo Croesor yn llecyn diarffordd am chwarter wedi naw'r bore, ddaru ryw bymtheg ohonom ymgynnull gyda'n golygon tua chopa Cnicht. Roedd y bore hydrefol mwyn wedi ein denu i fentro ac ymhen awr a hanner, wedi i rai aelodau fynnu hoe am baned cyn y llethr olaf, roeddem yn sefyll ar y copa gyda chi alsatian a'i berchennog yn gwmni dros dro. Ar ôl cyflwyno'r gobaith o gael cinio wrth Lyn yr Adar i ffwrdd â ni'n gymdeithion diddan ar hyd y grib tua'n golygfan dros y llyn. Wedi tamaid o bryd gwnaethom igam ogamu lawr trwy'r fawnog heibio Llyn Cwm Corsiog at Fwlch Rhosydd lle ffarweliom â Cliff, Myfyr ac Eli. I ffwrdd â'r gweddill ohonom i fyny'r inclein at yr ail gopa, sef Moelwyn Mawr ond nid cyn i mi gael bach o ysgytwad o gwrdd â rhedwr a arferai deithio hefo fi ar y bws i'r ysgol yn nyffryn Taf pell – hmm, o leiaf wnes i osgoi datgelu fy nghyfnod ysgol o flaen pawb, yn ystod y sgwrs!!

Wedi i ni'r criw llai cael ein syfrdanu gan y 'brocken spectre' ar ben Moelwyn Mawr a chael hwyl yn gwneud siapiau yn erbyn y cymylau, disgynnem i lawr at Fwlch Stwlan. Erbyn hyn roeddem wedi casglu aelod ychwanegol, sef Ceri a ymddangosodd ar ben Moelwyn Mawr ac a'n gadawodd ar ben Moelwyn Bach, y drydedd copa. Pwy ohonom sydd am anghofio cymal olaf ein taith, wrth i ni ymlwybro lawr y gefnen tua'r lôn fach o Dan y Bwlch i Groesor â'r haul yn suddo yn yr awyr dros Foel y Gest? Wrth i ni bron a chyrraedd pen ein taith dacw Myfyr yn aros wrth y giât, i'n hebrwng nôl i Groesor a sicrhau ein bod yn darfod ar amser yn union! Wedyn dyma ni'n profi gwir groeso Croesor dros baned yn y Caffi. Mae gweddill hanes y noson yn hysbys gan nifer ohonoch – bydd y lobscows, y cawl cennin a'r cacennau, heb sôn am y lluniau gwych, yn aros yn hir yn y cof, rydw i'n siŵr.

Diolch arbennig i Myfyr am gydarwain ac i Eli, Ray, Janet, Anet, Gwen, Iolo, Gwilym, Richard, Leusa, Cliff, John Arthur, Sian Port a Jeremy am eu cwmni ar y daith. Mae ein diolch oll yn dwymgalon iawn i Iona a gweddill staff Caffi Croesor am noson fendigedig.

O.N. I'r rhai ohonoch sydd â diddordeb, rydw i'n credu i ni gerdded rhyw 6 milltir a hanner ac yn gyfan gwbl esgynnem ryw 959 medr a disgynnem 419 medr rhwng y copa cyntaf a'r olaf!

Adroddiad a lluniau (ar y dde) gan Sian

Lluniau gan Sian a Myfyr ar Fflickr