HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Yr Elidir Fawr 19 Mawrth


19 ohonom yn troi i fyny ger Amgueddfa'r Chwarel yn y Gilfach Ddu ar fore heulog ond oer.

Morfudd a Bert (o Lanbêr gynt), yr arweinyddion; Ann Roberts (chwaer Morfudd), Gwen Aaron, Gwen Richards, Elizabeth Fletcher, Janet Buckles, Nia Huws, Nia Wyn, Sian Williams, Sian Shakespeare, Gwen a Richard (Rhuthun), Eirlys a Iolyn, Ray Baptist, Iolo Roberts, Gwilym Jackson (a Thecwyn y ci) a Maldwyn (un arall o Lanber).

Cychwyn i fyny'r Llwybr Main (y zig zags) i ben y domen lechi gyntaf. Teulu o eifr ifainc iawn yn y coed, ac i fyny'n uwch a thrwy hen Farics Sir Fôn a chael dipyn o'r hanes gan Morfudd a Bert. Ymlaen i fyny'r hen inclen i lefel y llwybr sy'n dod o Ddinorwig gan drio adnabod Ledi'r Wyddfa ar y llethrau gyferbyn uwchben Llyn Peris. Ar draws heibio twll Dali ac i fyny at lefel Awstralia, busnesu yn yr hen adeiladau a chael golwg ar yr hen greiriau cyn cael panad a chinio cyntaf.

Janet yn ysu i gael dringo'r hen ysgolion haearn – y hi, Iolo a Bert yn dringo 3 ohonynt i'r bonc nesa – tra roedd y gweddill ohonom wedi rowndio am y Llwybr Llwynog a dilyn y grisiau llechi i fyny i lefelau siediau'r Garet. Rhyfeddu ar yr hen beiriannau yno cyn dringo'n uwch at y Surge Pond, lle mae'r dwr o Lyn Marchlyn yn syrthio i lawr i grombil y mynydd i bwerdy trydan dwr ger Llyn Peris. Gwen Aaron yn ein gadael i ddilyn y ffordd lawr i Ddinorwig a Llanber.

Dringo uwchben y gweithfeydd i gopa oer Elidir Fach; tynnu llun 6 oedd heb fod yno o'r blaen, cinio sydyn eto cyn dringo'r sgri i gopa'r Fawr. Gwynt yn chwipio'n oer yno, felly lawr a ni i lawr i gysgod cynnes Cwm Dudodyn. Dilyn y llwybr i gyrion y Nant cyn troi'n ol ar hen lwybr y chwarelwyr o dan y tomeni heibio'r Twll Mawr, trwy Watford Gap, ac i lawr yn ôl at dwll Dali. I lawr a ni i dop y Llwybr Main ac i lawr yng ngwalod y chwarel toc wedi pedwar.

Diolch i Morfudd a Bert am daith a hanesion difyr.

O.N. Maldwyn, Sul: Wedi bod yn gweld drama Un Nos Ola Leuad, penderfynnu chwilio a chael hyd i fidio o'r ffilm ddangoswyd ar S4C yn 1991 a sylwi fod llawer o'r golygfeydd wedi eu ffilmio yn Chwarel Dinorwig (golygfeydd ar wasgar o ddyffryn Nantlle i Fethesda). Pnawn Sul – mynd i Lanber i weld ffilm am y Chwarel oedd yn rhan o weithgareddau LLAMFF, ac eto llawer o luniau o'r siediau a thaith y Sadwrn ynddi.

Os ewch i www.geograph.org.uk/photo/285665 cewch lun o'r Llwybr Llwynog, ac yn is lawr ar y dudalen mae na 200 o luniau yn sgwar SH 5690, gyda phytiau difyr (yn yr iaith fain) am y chwarel.

Adroddiad gan Maldwyn

Lluniau gan Maldwyn a Gwen Evans ar Fflickr