HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Pedol Llanberis 17 Medi


Er bod rhagolygon y tywydd yn anffafriol cafwyd diwrnod da yn crwydro'r mynyddoedd uwchben Llanberis. Bu rhaid i ddau ddychwelyd adref yn gynnar ond fe gyrhaeddodd saith ohonom gopa'r Wyddfa yn y niwl i werthfawrogi'r golygfeydd gwych cyn dychwelyd dros Llechog, Tryfan a Derlwyn i fwynhau paned, bara brith sinsir efo dwylo glan yng Nghaffi Steven!

Diolch i bawb am y cwmni difyr - Arwel, Sioned, Eifion, Dewi, Iolo, Iolo Sir Drefaldwyn, Sian ac Ann ac i Dewi am y Fairy Liquid!

Adroddiad gan Marion

Lluniau gan Arwel a Sioned ar Fflickr