HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Yr Eifl a Nant Gwrtheyrn 12 Hydref


Roedd hi'n niwl dopyn yn y maes parcio uwchben Nant Gwrtheyrn pan ymgasglodd 16 ohonom ar gyfer y daith - Mary, Iona, Lis, Haf, Gwen Aa, Meira, Linda a Gwyn, Gwenan a Gwil, Eifion, Twm Glyn, Iolyn, John W a John P a finna.

I ffwrdd a ni ar hyd Llwybr Gwyn Plas a thua Tre'r Ceiri. O leia roeddan yn gallu gweld y cytiau Gwyddelod a'r pyrth yn y muriau trwchus gan ein bod yn cerdded trwyddynt. Ymlaen tros gopa'r Eifl ac i lawr at y Bwlch a phethau'n gwella dim. Roeddan ni fwy na hanner y ffordd i lawr drwy'r chwarel ac heb fod ymhell o'r pentre pan ddaethon ni o'r niwl. Erbyn cyrraedd Caffi Meinir roedd yr awyr a'r môr yn las ac yn ddigon braf i ni eistedd allan yn mwynhau paned a chacan. Ymlaen wedyn ar hytraws yr allt at fferm Ciliau cyn cerdded dros y caeau yn ôl i'r maes parcio, a sylwi bod yr Eifl yn dal i wisgo'i chap.

Adroddiad gan Anet.

Lluniau gan Anet a Haf ar Fflickr