HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Rhyd Ddu i Borthmadog 11 Mehefin


Un o deithiau er cof am Llew ap Gwent

Un o deithiau noddedig i godi arian i gronfa Eisteddfod Genedlaethol Yr Urdd 2012

Wyth ohonom sef, Morfudd, Gwen, Cemlyn, Dei Cricieth, Henry, Gareth Dobson, Maldwyn a Gwilym yn cyfarfod ym maes parcio Rhyd Ddu gyda Jeremy Trumper yn ymuno a`r daith yn Bwlch y Ddwy Elor. Bore di-fai a rhagolygon y tywydd yn addo iddi godi`n braf yn ystod y dydd. Ar ol codi`n raddol drwy`r goedwig i`r Bwlch `roedd Jeremy yno yn ein disgwyl ac yn sgwrsio gyda criw o gerddwyr. Cael paned yno a cael hanes a straeon gyda`r cerddwyr, ac fel arferiad pan mae yna Gymry diarth yn cyfarfod mae yna rhywun yn adnabod neu yn perthyn i`w gilydd a felly roedd hi yn Bwlch y Ddwy Elor!!

Ar ôl ffarwelio hefo`n cyfeillion newydd dyma benderfynu rhanu'r daith, gyda pump am fentro tros y tri Moel a pedwar am ddilyn yr hen rheilffordd y chwarel i Felin Pandy. Neb yn cyfaddau ein bod yn cystadlu pwy oedd am fod y cyntaf i gyrraedd Porthmadog, er hynny dyma`r ddau griw yn cyfarfod yn ryfeddol o annisgwyl ar argau Llyn Ystradllyn, a`r criw aeth tros y tri Moel yn cael y clôd am ei ymdrech rhyfeddol o gyflym.

Ymlaen a ni gyda Dei yn ein arwain, heibio y Felin ac anelu am fferm Cwm Bach ac i lawr am Dremadog, gyda gwyriad fer i gael arbrofi y golygfa hyfryd o Craig y Castell uwchben bentre Tremadog.

Cyrraedd y pentref mewn amser cymedrol a penderfynu galw mewn tafarn yn y pentre cyn mynd ymlaen i Port ond yn y dafarn gorffenwyd y daith!

Pawb wedi mwynhau diwrnod bendigedig mewn cwmpeini hwyliog a difyr.

Adroddiad gan Gwilym.

Lluniau gan Gwilym ar Fflickr