HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Y Garn a'r Elidir Fawr 9 Gorffennaf


Taith wedi ei threfnu ar fyr rybydd i lenwi bwlch yn yr rhaglen gyfredol oedd hon gyda dim amser i ymchwilio ymlaen llaw. Hyn yn cael ei egluro i`r criw yn y maes parcio a`r arweinydd yn agored i unrhyw awgrymiad i newid y daith os bydd angen, ond pawb yn fodlon i anelu am Y Garn ar hyd y llwybr gogleddol. Mae`r llwybr yma yn edrych ar draws Cwm Cywion am y Mushroom Garden a`r bwriad oedd i`w ddefnyddio i ddiweddu`r daith. Cawn weld!!

Roedd yn fore braf ar lan Llyn Ogwen a`r cymylau ar y copaon yn edrych yn fygythiol ond pawb yn ffydddiog bod rhagolygon y tywydd yn gaddo iddi godi`n braf ac ambell i gafod. Felly Anet, Gwen Evans, Gwen Richards, Iona, Iolo a Gwilym yn cyrraedd Llyn Idwal a`r cymylau yn dechrau codi. Cael paned ar y llwybr gogleddol ac edrych ar draws a cadharnhau y penderfyniad i ostwng am Ddyffryn Ogwen ar lwybr y Mushroom Garden. Y niwl yn dechrau clirio ar gyrraedd copa Y Garn a llynoedd Padarn a Peris a phentre Llanberis i weld yn glir. Ymlaen i Fwlch y Brecan lle cawsom lecun cysgodol i gael cinio a penderfyny eto i newid y daith. Yn lle mynd ymlaen i Elidir Fawr troi am Mynydd Perfedd a Carnedd y Filiast lle cawsom olygfeydd bendigedig o fynyddoedd Eryri.

Yn ol i Fwlch y Brecan ac i fyny`r llwybr igam ogam i gopa y Foel Goch a gostwng yn serth drwy`r Mushroom Garden yn ol i Lyn Idwal. Erbyn hyn roedd yr haul yn boeth ac aeth Iona a Gwen i fwydo eu traed yn nwr cynnes y llyn!!

Llawer o ddiolch i`r criw am droi allan a`r fyr rybydd ac hefyd i Anet am ei chymorth ar lwybr y Mushroom Garden ac am ychwanegu at y lluniau.

Adroddiad gan Gwilym

Lluniau gan Gwilym ag Anet ar Flickr