HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Llyn-y-Foel a Chwareli Rhos 9 Chwefror


Rhagolygon y tywydd yn addo diwrnod gwlyb yn ardal Dolwyddelan ond er hynny 14 yn troi allan am daith cylch Llyn-y-Foel ar odre Moel Siabod a chwareli Rhos. Pawb yn gwisgo am y glaw cyn cychwyn o’r maes parcio ond cadw draw ddaru’r glaw a chawsom ddiwrnod sych ar y cyfan. Cerdded drwy’r pentre ac i fyny am y goedwig a dilyn ffordd y Goedwigaeth at y gyffordd hefo arwydd am Moel Siabod neu Capel Curig. Troi i’r chwith am Moel Siabod, tros y bont a dilyn y llwybr a chael paned wrth y rhaeadr di-enw. Trafod wedyn am enw priodol i’r rhaeadr ac ar ôl cysidro Rhaeadr Siabod, Rhaeadr Dwyll, a Rhaeadr CMC, penderfynwyd ei henwi yn Rhaeadr Y Foel!! Wedyn dilyn y ffoes i fyny drwy`r creigiau cyn cyrraedd Llyn-y-Foel. Roedd copa Moel Siabod o’r golwg yn y niwl. Ymlaen drwy’r gors a dilyn y llwybr i lawr am ginio yn chwarel y Rhos. Mynd heibio’r llyn di-enw - neb am awgrymu enw iddo!! - felly ymlaen a throi am hen weithfeydd a llety’r chwarelwyr cyn troi am y trac yn ôl i Ddolwyddelan. Erbyn hyn roedd Moel Siabod a’r Carneddau i`w gweld ac yn glir o niwl.

Yn ôl yn y maes parcio dyma’r glaw trwm yn cyrraedd ond erbyn hyn roedd pawb yn barod i adael.

Diolch i Morfudd, Cemlyn, Gwen, Anet, Rhian, Gwyn Chwilog, Arwyn, Bert, Arfon, Haf Meredydd, John W, John P a Iona am eu cwmpeini a’r cyfle i roi’r byd yn ei le!

Adroddiad gan Gwilym, yr arweinydd.

Lluniau gan Gwilym a Haf Meredydd ar Fflickr