HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Dringo ar Tryfan 4 Medi


Dros y penwythnos roedd y tywydd yn annifyr dros ben, ond yr oeddwm yn lwcus o'r herwydd doedd y tywydd ddim yn rhy ddrwg ar y dydd Sul. Felly, aethom ymlaen hefo'r dringo ond ar y Milestone Buttress. Daeth Gaynor J. yr holl fordd o dde Cymru, chware teg iddi a Jeremy a finnau. Diolch i Jeremy am ei gefnogaeth.

Ddaru ni gychwyn ar y Rowan Route … cyflwyniad da i multi-pitch i Gaynor a wedyn i fyny'r Direct Route.

Mae'r Direct wedi'i graddio'n V.Diff ond ar ol cenedlaethau o ddringwyr sydd wedi scramblo i fyny un o'r "trade routes" mwy poblogaidd yng Nghymru mae'n disgleirio fel gwydyr. Rhaid "watchio" pob symudiad!
4a o leia!! Neu efallai mae fi sy'n mynd yn hen!

Ar y ffordd i lawr at y lle parcio dechreuodd y glaw. Ond dim ots, fe gawsom ddiwrnod penigamp.

Diolch Gaynor a Jer.

Adroddiad gan Cliff Mathews