HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Cader Idris 4 Mehefin


Ar y 4ydd Orffennaf, ar ddiwrnod hyfryd o haf, aeth 28 o aelodau ar y daith i fyny Cadair Idris gan gychwyn o Minffordd. Braf oedd cael cwmni dau aelod newydd, sef, Medwyn a Gwen. Cafwyd egwyl fer nepell o lyn Cau, cyn parhau wedyn am y copa. Braf iawn oedd cael mwynhau'r heulwen tra'n bwyta ein cinio ar y copa. Gadawodd dau i fynd eu ffordd eu hunain ond aeth y 26 oedd yn weddill ymlaen i lawr am Tyrrau Mawr ac o'r copa hwnnw, mwynhau'r olygfa odidog o aber yr afon Mawddach a llynoedd Cregennan. Aeth saith i lawr am Lanfihangel y Pennant yn syth er mwyn dod a mwy o geir i gludo'r gweddill yn ôl i'r cychwyn. Cerddodd y gweddill dros Graig-y-Llyn cyn cychwyn lawr am Lanfihangel-yPennant. Yn Llanfihangel-y-Pennant cafwyd cyfle i weld tŷ Mari Jones ac ymweld â Chastell y Bere. Bu i rai ymweld â'r eglwys yno hefyd.

Adroddiad Iolyn

Lluniau gan Morfudd ar Fflickr