HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Taith beicio mynydd Dolwyddelan 1 Hydref

Diolch i'r pedwar a fentrodd ar y daith feicio mynydd, Gareth Everett, Gareth ac Eryl Penmachno ac Arwel. Cawsom ddiwrnod arbennig a tywydd poeth iawn gyda pawb yn mwynhau er gwaetha'r gwaith caled ar adegau, a'r hwyl o fynd lawr allt ar lefydd eitha technegol nes fod brecs rhai yn dechrau gor-boethi ! Roedd y daith yn 45 km,a bu rhaid mynd am lymaid bach i'r Gwydr ar y diwedd, diolch i bawb.

Arwain ac adroddiad gan Alwen

Lluniau gan Arwel ar Fflickr Clwb Mynydda Cymru