HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Mynyddoedd yr Atlas 30 Mawrth i 8 Ebrill



Copa Toubkal, 4167 m

Cafwyd amser gwych yn yr Atlas. Mynydda i'w gofio, llawer o hwyl, a llawer o luniau. Mae "Toubkal - ddy mwfi" ar ei ffordd.

Roedd trefniadau, cyfleusterau aros ac arweinyddiaeth Rachid Imerhane yn ardderchog, rhaid dweud. Cymerodd pawb at ei gymeriad annwyl a diffuant, a'i barch at ei dras Berber, ei deulu, ei weithwyr a'i gymdogaeth. Mae'n wybodus o ran hanes a diwylliant a byd natur yn ogystal a mynyddoedd yr Atlas a'u peryglon, a'i wen siriol yn cydio ym mhawb. Mesurodd allu'r criw i'r dim, gan arwain yn ddoeth a chynhwysol. Cyrhaeddodd pawb gopa Jbel Toubkal o'r herwydd. Mae ei lety ger Imlil mewn lleoliad hynod o gyfleus a'i olygfeydd o'r dyffryn a'r mynyddoedd yn hardd iawn. Cafwyd bwyd blasus gan ei dim yn y llety ac yn y mynyddoedd, ac roeddent yn llawn gofal ac yn awyddus i blesio bob amser - yn gwmni hwyliog a chartrefol. Rydym yn unfryd ein canmoliaeth, ac yn barod iawn i gyfeirio aelodau'r Clwb ac eraill at Rachid i drefnu taith i'r Atlas a mannau eraill ym Morocco. Ar ben hyn, mae'r pris / pen yn cymharu'n ffafriol iawn a phrisiau cwmniau o Brydain oherwydd y trefniant uniongyrchol.

Adroddiad gan Arweinydd y daith, Rhys Dafis

Lluniau gan Gerallt Pennant ar Flickr

01 Copa Toubkal, 4167 m
02 Copa Ouanoukrim, 4088 m, Toubkal yn y cefndir
03 Bwlch Tizi Mzik
04 Copa Tasserinoute, 2612 m
05 Llety Tamatert
06 Abdol Latif, is arweinydd a Rachid Imerhane, arweinydd