HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Crib Nantlle 28 Awst


Roeddwn i'n falch iawn fod 19 wedi penderfynnu ymuno a'r daith dros Grib Nantlle. Dechrau o faes parcio'r tren bach yn Rhyd Ddu am 9:30 a'r rhagylygon tywydd wedi gaddo diwrnod godidog i gerdded. Buan iawn sylwais fod pacio'r eli haul wedi bod yn gamgymeriad!

Roedd y daith i fyny'r Garn yn un galed ar y coesau fel arfer, a chawsom ein amgylchynnu gan y niwl tua tri chwarter ffordd i fyny a ddaethon ni ddim allan ohono nes hanner ffordd lawr y mynydd dwytha, 5 awr yn ddiweddarach!

Er hynny roedd y cwmni yn dda a'r sgwrs yn ddifyr – braf cael cyfarfod aelodau o'r clwb oedd yn ddiarth imi.

Roedd y gwynt yn gryf a'r niwl yn drwchus wrth groesi Clogwyn Marchnad a phawb yn cerdded i'r chwith o'r grib rhag herio damwain. Aethom ymlaen yn gyflym i Fynydd Tal y Mignedd i cael cysgodi a chael cinio, a'r tywydd yn teimlo'n oerach nag oedd o wedi bod ers stalwm. Doedd neb awydd bwyd gena i unwaith eto a minnau wedi pacio digon i'r criw i gyd! (peth cas ydy llwgu ynde!).

Ymlaen ar ôl cinio i lawr i Fwlch Drosbern lle roedd Twm yn honni fod hen dafarn yn arfer bod (braf iawn fydda wedi mynd yno i gysgodi a mwytha peint o flaen y tân ar ddiwrnod erchyll). Yna i fyny yr ochr arall i gopa Craig Cwm Silyn, pwynt uchaf y grib ar 734m. Dechreuodd hi lawio yn fuan wedyn a hithau wedi bygwth drwy'r dydd. Hefor niwl yn dewach nag erioed a'r llwybr yma yn anodd i'w ddilyn roeddwn yn falch o'r app Viewranger oedd gan Maldwyn ar ei ffôn yn sbario fi fynd i'r bag i nol y cwmpawd! (dwi'n gwybod be fydda i'n gofyn am gan Sion Corn eleni!).

Wedi cyrraedd copa'r Garnedd Goch roedd y mwyafrif yn cytuno mai mynd i lawr tua'r maes parcio oedd y syniad gorau ag osgoi'r mynydd diwethaf ar y grib sef Mynydd Graig Goch.

Er fod pawb wedi mwynhau, biti garw fod y tywydd wedi bod mor siomedig a'r golygfeydd ar y grib ymysg y rhai gorau yng Nghymru.

Lawr i faes parcio Pant y Gog oedd y pendyrfyniad democrataidd lle roedd Maldwyn wedi trefnu fod tacsi Huw yn cludo pawb yn ôl i'r ceir yn Rhyd Ddu.

Adroddiad gan Marc Williams, Pwllheli - yn arwain ei daith gyntaf i'r Clwb

Lluniau gan Marc Williams ar Fflickr