HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Clogwyn yr Oen - Dringo 19 Mehefin


Marion

Gyda Anita ddim ar gael i arwain y dringo ar y Gogarth ger Llandudno (wrthi'n morio mewn canŵ) penderfynwyd ail drefnu'r diwrnod. Daeth deuddeg ohonom at ein gilydd i roi cynnig ar ddringo Colgwyn yr Oen, Tanygrisiau. Alan, Alwen, Dilwyn, Eli, Guto, Janet, Jeremy, John, Marion, Myfyr, Rhodri a minnau.

Roedd y tywydd yn braf , y graig yn gynnes a'r ffrithiant yn wych a dringwyd nifer o'r clasuron ar y Clogwyn. Kirkus,Chic, Slick, Slack a Bent. Heb son am ddringfa newydd Jeremy ac Eli!
Diwrnod gwych y Moelwynion ar ei gorau.

Diolch i bawb a llongyfarchiadu i Eli am lwyddo i ddringo ei dringfa aml-ddringen cyntaf.

Adroddiad gan Arwel

Lluniau gan Arwel ar Fflickr