HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Dringo ar Foelgron, Migneint 18 Ebrill


Cafwyd diwrnod da iawn, gyda rhai aelodau newydd yn ymuno. Roedd Myfyr, Ceri,Alan, Sian,Marion, Jeremy a Luke a Iwan yno. Dringwyd amryw o ddringfeydd, rhai yn cael mwy o gyfle i ddysgu belaio a rhai yn arwain dringfeydd yn ddi-drafferth (Jeremy) ac yn gadael i'r rhai ifanc geisio ei ddilyn.

Da oedd gweld Luke a Iwan yn ymdrechu'n galed ac yn dal ati i gyrraedd y top ar Inspiration. Braf oedd gweld Myfyr allan a bod y droed a'r ffêr yn gwella.

Diolch i bawb- diwrnod da

Adroddiad gan Alwen Williams (Arweinydd)

Lluniau gan Alwen Williams ar Fflickr