HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Cwm Cywarch 17 Tachwedd


Am drio'r dechnoleg newydd yma!! Bore gwlyb, glwyb iawn. Saith o ddewrion allan – John Wyn, John Parry Môn, Judith Morris Aber, John Parry Port, Alan, Iona a John W. Cychwyn o'r lle parcio newydd ym mhen y cwm, fyny dan Creigiau Camddwr at lloc llwynog enwog yr annwyl Tom yr Erw. Niwl a gwynt; i fyny am Glasgwm – dim golygfeydd. Llyn y Fign yn dod i'r golwg fel "aparishon". Llwbyr i'r de ar hyd cefn llydan, ac allan o'r niwl ar ben y trac sy'n mynd i lawr yn ôl i'r cwm. Brachdan a phaned, ac i'r ceir erbyn 2.30. Trio edrych am llwybyr Bydere a'r efail yng nghanol y creigiau ond ddim digon siwr – base Tom yn gwybod yn iawn, a llawer mwy hefyd am yr ardal. Gobeithio am well tywydd tro nesa!!. Mishyn acymplishd!!

Adroddiad gan John (W)

Lluniau gan John (W) ar Fflickr