HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Penmon 17 Mawrth


18 ohono ni, yn cynnwys tri o Antur Waunfawr.
Wedi cerdded tua 8 milltir, o Llangoed heibio Penhwnllys at llwybyr arfordirol ynys Mon, ac ymlaen i Benmon a Chastell Aberlleiniog. Y tywydd yn sych, ac yn ddigon braf i ni cael picnic ar Trwyn Du Penmon, a phanad neu hufen ia i ddilyn yn y caffi. Gorffenodd y daith efo ymweliad â Chastell Aberlleiniog, castell Normanaidd wrth ymyl Llangoed, sydd wedi agor i'r cyhoedd yn diweddar.

Adroddiad gan Gwen Richards

Lluniau gan Gwen Richards ar Fflickr

Lluniau:

  1. Y criw ar y bont, Lôn Dwr Llangoed. Llwybr sy wedi cael ei agor yn diweddar gan wirfolwyr, y Silver Slashers ar ôl bod ar gau ers yr 1950au.
  2. Mwynhau'r haul tu allan i Gaffi Penmon
  3. Gwyn yn dringo - yn y colomendy ym Mhenmon.