HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Pen y Fan 16 Ionawr


Ail drefnwyd y daith hon wythnos ynghynt i fanteisio ar yr eira trwchus a’r rhew ar y Bannau ... Nodwyd bod cramponau a ffyn cerdded yn angenrheidiol ...

Trodd 12 allan ar fore oerllyd a gwlyb!. Dynion bob un ... Gadael y ceir yn Libanus a dringo talcen serth Pen Milan am y de, cyn diflannu i’r niwl rywle wrth y maen coffa uwch Llyn Cwm Llwch. Mi all fwrw eira uwchben y rhewbwynt, ac mi all fwrw glaw treiddgar odano hefyd, gwaetha’r modd ... Herio’r rhewlif (wel, rhewslwtsh) at glogwyn Corn Du, a theimlo chydig yn well nad oedd pwysau’r cramponau wedi bod yn ofer, wedi’r cyfan!

Roedd yn rhy oerllyd i gael paned ar Ben y Fan, felly dyma ei bachu hi (sori) i lawr y clogwyn gogleddol am Gefn Cwm Llwch, lle roedd mymryn o gysgod. A wir, peidiodd y gwlypwch am ychydig, a gwelodd belydryn o haul ein cefnau wrth gladdu brechdan haeddiannol ar y grib.

Anelu am y gogledd wedyn at Dwyn Cil Rhew (enw addas) ac i lawr i Gwm Gwdi, lle roedd pedwar di-fap a di-glem yn cychwyn am y copa a hithe’n ganol pnawn. Yno daeth y glaw ar ein gwarthaf eto, ac ni fartsiodd llanciau heini baracs Aberhonddu mor gyflym erioed â’n tuth ni ar draws gwlad yn ôl i Libanus, a tharth pac rygbi yn codi uwch ein pennau. A dyna lle roedd tanllwyth croesawgar tafarn Tai’r Bull yn ein haros!

Diolch i Bruce am arwain epig arall.

Adrodduad gan Rhys Dafis
Lluniau gan Pens Jones a Guto Evans ar Fflickr

Lluniau

  1. Uwch y cymylau rhew
  2. Oedd, roedd angen crampons!
  3. Y Dwsin Brwnt
  4. Rhewslwtsh
  5. Ffarwel i'r eira