HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Moelwyn Bach 13 Tachwedd


Y criw: Myfyr, Iolo, Iolo (Caernarfon-Ysg.newydd), Gwyn Llanrwst, John Arthur, Gwyn Roberts, Gareth a Gaynor, Hefin a Morfudd, Eleri o Benllyn, Arwel, Gwen Evans, Alwen a Ceri, Anet, Aneurin a Dilys, Sioned, Bruce, Gwilym Jackson, (+un o Penamchno - wnaiff rhywun e-bostio ei enw ogydd.!)

Taith hamddenol a tywydd braf gyda'r cawodydd yn cadw draw. Chris Oakley Arms yn ein danfon at faes parcio ger Hafod y Llyn, yna cerdded drwy goedwig Hendre Gwenllian, heibio hen domennydd chwareli a fyny crib orllewinol Moelwyn Bach. Cinio ar y copa yna lawr am argae Stlwan, yna dilyn llwybrau llai poblogaidd i lawr at Lyn Ystradau. Heibio stestion Dduallt a Phlas Dduallt, yna paned bach cyn dal ar i lawr yn ol i'r Oakley.
Diolch i pawb am daith ddi-drafferth, a diolch yn fawr i Chris am fod yn daxi !

Adroddiad gan Alwen (yr Arweinydd)

Lluniau gan Myfyr, Iolo ac Aneurin ar Fflickr