HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Moelydd yr Wyddfa 11 Medi


Moel Eilio, Foel Gron, Goch, Cynghorion

Dau ddeg un o aelodau yn cyfarfod yng nghaffi Pete's Eat yn Llanberis am 9.15 a chael paned cyn cychwyn - dim brecwast yno er fod y platiau enfawr yn demtasiwn !

Taith hwylus tua Moel Eilio a golygfeydd clir i'r dyffryn a Llanberis . Niwl ar y copa a phawb yn corlannu o fewn y cylch o gerrig.I lawr am Foel Gron a Moel Goch ag allan o'r niwl gan gael cipolwg ar Lyn Y Gadair, Y Garn a Chrib Nantlle. Mynydd Mawr mewn niwl ar draws y dyffryn.

Cyrraedd Bwlch Maesgwm a'r llwybr yn arwain yn hawdd i lawr i Lanberis tase rhywun isio mynd! Ond ymlaen aeth pawb am Foel Cynghorion - Sioned, Arwel,Jeremy, Richard a Sue, Geraint Hughes a Meinir Jones (aelodau newydd), Gwen, Ann Till, Gwilym, Huw Myrddin, Iolyn ac Eirlys, Anet,Elen, Dylan Iorwerth ac Elaine, Meic, Morfudd a John Arthur.

Tamed i fwyta yn y bwlch cyn dringo i gopa Moel Cynghorion a dyfalu beth oedd tarddiad enw'r mynydd - dywedir i'r beirdd gyfarfod yno i ystyried bygythiad Edward 1.

I lawr i Fwlch Cwm Brwynog ac ambell redwr yn gwibio heibio. Pwyll bia hi wrth ganlyn y llwybr yn ochri pen y cwm - yr Wyddfa rhywle uwchben mewn niwl. Cyrraedd Caffi Hanner Ffordd a chanlyn llwybr brysur yr Wyddfa tua Llanberis.

Morfudd wedi trefnu lluniaeth yng nghaffi Steve Pen Ceunant - wel am groeso! Digon o goffi a the i suddo llong! Digonedd o fara brith! Diweddglo perffaith i ddiwrnod o gerdded.

Ond nid dyna oedd diwedd y dydd i bawb - aeth rhai aelodau ymlaen i Blas Y Brenin i wrando ar ddarlith gan y Gymraes gyntaf i ddringo i gopa Everest.

O.N. Yn lwcus iawn fuon ni efo'r tywydd hefyd.

Adroddiad gan Mike Griffiths

Lluniau gan Morfudd ar Fflickr