HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Moelfre a Llwybrau Ardudwy 10 Chwefror


Arwyn yn arwain, 16 yn bresennol, lawr ar drên y Cambrian i Dalybont, Ardudwy, dilyn yr afon Ysgethin i Lety Lloegr, yna dilyn ffordd Bodlyn cyn torri i'r chwith i ddringo llethrau serth Moelfre. Ar ôl tamaid o fwyd ac edrych ar yr olygfa odidog i lawr am Lwyngwril a draw am Benrhyn Llyn, anelu i gyfeiriad Allt Fawr, ac oddi yno i lawr am Lanbedr heibio Tyddyn Bach a thrwy Goed Garth Goch i'r pentre.

Paned yn y Vic (a finnau'n cyfarfod fy athrawes ysgol gynradd, Gretta, ar y stryd - rhywun dwi'n ei hadnabod ers 50 mlynedd felly!) cyn dal y trên yn ôl tua'r gogledd.

Adroddiad gan Haf

Lluniau gan Haf ar Fflickr

01 Pont Fadog wrth Llety Lloegr
02 Y garreg ar Bont Fadog, "1762 SAER"
03 Rhai o'r criw yn agos at gopa'r Moelfre
04 Llethrau serth Moelfre
05 Ar Moelfre
06 Cyrraedd Allt Fawr efo Rhinog Fach a'r Llethr yn y cefndir
07 Yr 16 a fentrodd! Diolch, Arwyn.
08 Fy athrawes gyntaf, Gretta, ar stryd Llambad
09 Golau'r haul drwy'r hesg ger Talwrn Bach
10 Beti a Twm yn croesi'r lein
11 Ffawd heglu!
12 Steshion Llambad
13 John ac Arwyn yn aros am y trên
14 Hyrc yn hedfan yn isel!!
15 Hir yw pob ymaros
16 Mynd ar y trên
17 Mynd ar y trên
18 Ôl abord!
19 Aros i drên Penrhyn fynd heibio'n Harlech

Lluniau gan Arwynar Fflickr

1 Pont Fadog
2 Cwm Nantcol
3 Uwchben Allt Fawr
4 O dan Allt Fawr ac un o chwareli mango (manganîs) Moelfre