HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Rhyd Ddu 8-10 Ionawr


Penwythnos preswyl, ond fod nifer wedi dod am y diwrnod ar y Sadwrn a'r Sul

Neges gan Morfudd, y trefnydd:

Llawer o ddiolch ichi am eich cefnogaeth dros y penwythnos yn Nghanolfan Awyr Agored Rhyd Ddu. Roedd dros 40 wedi troi allan o wahannol rannau o Gymru a Lloegr er gwaetha’r eira a'r rhew ar y lonydd. Hefyd diolch i'r arweinyddion a chyd-arweinyddion.

Bu’r penwythnos yn hynod o lwyddiannus gyda chynigion o wahanol deithiau, dringfeydd a hyfforddiant. Braf oedd gweld rhai oedd wedi methu ymuno a ni yn ystod y dydd yn y Cwellyn i swpera a chymdeithasu. Edrych ymlaen i gael penwythnos o fynydda a chymdeithasu eto. Edrych ymlaen am eich sylwadau ar y Gweplyfr.

Mae Guto Evans wedi gosod fideo am y penwythnos ar wefan YouTube

Lluniau gan Morfudd, Arwel, Anet, Llew a Iolo ar Fflickr

Gweler hefyd rai lluniau gan Geraint Efans yn Oriel y Clwb


Hanes diwrnod hyfforddi caib a chramponau gan Arwel:

Gyda'r eira yn drwch ar y llawr yn Rhyd Ddu, da oedd cael dringo i Fwlch Cwm y Llan i ymarfer sgiliau elfenol ond hanfodol o ran diogelwch ar y mynydd yn ystod y cyfnod gaeafol hwn. Cafwyd cyfle i gerdded mewn eira trwchus, cicio stepiau, defnyddio'r bicell i arafu codwm yn ddiogel ac adeiladu belai yn yr eira. Yna rhoi'r cramponau ymlaen i ddringo nefe caled i gopa'r Aran.
Golygfeydd gwych o'r Moelwyn a'r Rhinogydd i'w gweld cyn cychwyn yn ól i Rhyd Ddu tra roedd yr haul yn machlud drwy Fwlch y Ddwy Elor.
Diolch i Alan, Cliff, Gwynfor, Helen, Kate,Owain, Marion a Nia am ymuno á ni ac hefyd i Anita am gyd arwain y diwrnod.


Hanes dydd Sadwrn, ar Yr Wyddfa, gan Anet:

O’r criw mawr ymgasglodd yng Nghanolfan Rhyd Ddu fore Sadwrn penderfynodd deunaw ohonom anelu am Yr Wyddfa. I ffwrdd a ni tan arweiniad gofalus Morfudd tua Bwlch Cwm Llan, mewn eira bob cam o’r lôn bost. Saib cyn cyrraedd y bwlch i wisgo cramponau, ac ambell un ohonom yn eiddigeddu wrth y cramponau ffasiwn newydd di-drafferth nad oedd angen ond eiliadau i’w cysylltu â’r esgidiau. Yn y bwlch ymunodd Eryl (Owain) â ni wedi cerdded tros Yr Aran o Nant Gwynant.
Gwynt main wrth fynd i fyny Allt Maenderyn a’r golygfeydd o’r mynyddoedd gwynion o’n cwmpas yn ehangu o hyd. Cyrraedd y niwl ar y copa deheuol a dilyn llwybr bach cul iawn yn yr eira ar hyd y grib i gopa’r Wyddfa, pob un yn falch o’i gramponau a’r gaib yn ei law.
Yr un pryd â ninnau cyrhaeddodd George a Maldwyn y copa, y ddau wedi dringo un o’r hafnau o Gwm Glas. Teneuodd y niwl a glasodd yr awyr wrth i ni loetran yn dotio at y ffurfiau anhygoel wedi eu ffurfio gan y gwynt yn y rhew, a chawsom olygfeydd trawiadol.
O’r copa penderfynodd hanner y criw fynd yn ôl tros y grib fain ac yn syth i lawr i Ryd Ddu, a’r hanner arall ohonom ddilyn llwybr y Snowdon Ranger i lawr. Sylwi wrth basio gymaint yn fwy difrifol yr oedd llwybr PYG yn edrych na phan ddringom o Calan, a nifer o’r cerddwyr yn defnyddio rhaff i’w diogelu eu hunain arno.
Roedd y daith i lawr yn braf iawn a’r golygfeydd tua’r gogledd yn tynnu ein sylw yn awr. Wrth i ni wynebu’r gorllewin am ran ola’r daith diflannodd yr haul tu ôl i Grib Nantlle, ac wrth iddo fachlud melynodd yr awyr. Clo teilwng i ddiwrnod arbennig.
Diolch yn fawr am drefnu ac arwain Morfudd.


Hanes Dydd Sul gan Llew:

Codi bore Sul wedi noson chwilboeth 'roedd rhywun wedi gadael y gwres ymlaen drwy'r nos! Rhai wedi troi am adre eisoes a rhagolygon y tywydd yn darogan mwy o eira. Wedi'n uwd, paratoi i droi eto am yr uchelfannau. Criw bach am fentro i'r Wyddfa; Gareth Wyn yn eu plith ac yntau wedi colli ei gaib y diwrnod cynt ar ei ffordd i lawr o Fwlch Meillionen. Roedd Ken Penmachno am dorri ei gwys ei hun drwy'r eira a'r gweddill ohonom am wynebu llethr serth y Garn a'r grib at Fynydd Drws y Coed (lle bu eraill ddydd Sadwrn! – Gol.). Sioned, Gaenor, Lisa, Sian, Rhodri, John Parry a Llew yn dilyn y Cadeirydd i ddannedd y gwynt rhewllyd ar y copa cyntaf. Yna i'n cyfarfod oedd Arwel, Guto, Bruce ac Alan! Tynnu lluniau a phaned yn y cylch cerrig ac i ffwrdd a ni eto. Gwaith diddorol yn dilyn y grib a chyfarfod â Iolo o Ynys Môn - aelod newydd i'r Clwb gobeithio. O Fynydd Drws y Coed i lawr y llethr, a oedd wedi rhewi'n gorn, i Fwlch y Ddwy Elor am ginio efo Myfyr, a oedd yn disgwyl amdanom yn glud yng nghysgod y wal. I lawr drwy'r coed wedyn – yr olygfa a'r awyrgylch yn atgoffa Morfudd o aeaf Canada (er na fuodd erioed yna!). Bruce a Guto yn ei throi hi i lawr am Ryd Ddu ac adre a'r gweddill ohonom yn dilyn llwybrau'r coed i gyfeiriad Beddgelert i chwilio am gaib Gareth Wyn. Llwybrau'r coed yn llawn eira a hithau'n pluo erbyn hyn. Wedi hir drampio cyrraedd gwaelod Bwlch Meillionen a throi lawr i gyfeiriad y rheilffordd. Dim sôn am y gaib ond gweld hen gartref Morfudd yn y pellter. Cyrraedd y ffordd fawr wrth iddi dywyllu a Ken yn ei gerbyd nerthol yn dod i?n hebrwng yn ôl i Ryd Ddu. Diolch Ken a diolch i Morfudd am drefnu penwythnos cofiadwy efo digonedd o gyfleoedd i ymarfer sgiliau rhew ac eira. Ac os ddaw rhywun o hyd i gaib yng nghyffiniau Bwlch Meillionen ...!