HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Crwydro Ardudwy 8 Rhagfyr


Daeth naw ynghyd ar y platfform yn stesion Port ychydig cyn 10 y bore (rhai'n fwy ben set na'i gilydd!), ar fore arbennig o braf. Daliwyd y trên 10 i lawr am Ardudwy, a dod i ffwrdd yn stesion Llambad, ger fferm Talwrn Bach. Cerdded i bentre Llambad wedyn ac aelod annisgwyl yn cynnig ein bod yn cael paned yn y Vic cyn mynd ymlaen ar ein taith (diolch, Jooohn!). Cerdded ymlaen drwy'r pentref, a heibio bwthyn Tan y Wenallt (lle ganwyd fy hen daid) cyn codi'n serth trwy'r coed a heibio fferm Penrallt, fferm stad yn hytrach na'r tyddyn traddodiadol. Yna, parhau tua'r gorllewin trwy Goed Lletywalter a heibio'r llyn a chyrraedd fferm Coed Mawr, lle mae chwech llwybr yn cyfarfod. Roedd yma hen felin o rhyw fath yn y dyddiau a fu a sylwodd John Parry ar leoliad yr hen olwyn ddwr. Ymlaen heibio dau lyn Wern Gron ac i'r ffordd darmac heibio Llwyn Ithel. Penderfynu yma bod yn rhaid troi'n ôl am yr arfordir os oedden ni am ddal trên 2.15 ac felly dilyn y ffordd hyd at dy fferm Penarth, heibio Clogwyn Arllef a'i gaer - a'r olygfa hyfryd o Ardudwy a Phen Llyn - at fferm Gwern Einion a'r gromlech amlwg i'w gweld yn y cae gerllaw, a dilyn y ffordd yn hytrach na llwybrau i lawr i Bensarn i wneud yn siwr na fyddem yn colli'r trên. Cyfle wrth y stesion i gael cip ar hen gei Pensarn, lle cludid llechi o Chwarel Hen, Llanfair, i bedwar ban byd dros gan mlynedd yn ôl. Trên yn ôl i Borthmadog a chyfle i rai gael panad a mins pei flasus yng nghaffi Portmeirion. Diolch i bawb am eu cwmni.

Adroddiad a lluniau gan Haf Meredydd

Lluniau gan Haf Meredydd ar Fflickr

1 - John Arthur a Jooohn efo ty stad Penrallt yn y cefndir.
2 (ag uchod) - Y criw efo mynyddoedd y Rhinogydd yn y cefndir - llethrau'r Llethr yn wyn dan eira. John Parry, Ray a John yn y tu blaen, John Arthur, Anet, Gwen a Gwyn, rhes ganol, a Beti a Haf yn y cefn.

O.N. Rhag ofn i bobl ddechrau dyfalu be ydy'r sbloets coch a gwyn sy gan John Arthur ar ei frest yn y llun (2), Pico Dolig ydy hwn, sef cyw iâr rwber mewn gwisg Siôn Corn sy'n ymddangos yr adeg hon o'r flwyddyn ar ein teithiau ac yn gwneud twrw mawr wrth gael ei wasgu'n ôl i ddyfnder y sach gefn!