HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Eisteddfod Y Bala 2-8 Awst


Cafwyd wythnos lwyddianus ar ein stondin yn Eisteddfod Y Bala. Daeth sawl aelod heibio a chasglwyd nifer o aelodau newydd i'r Clwb.

Ar y Dydd Mercher cafwyd digwyddiad arbennig ar y stondin gyda chyhoeddi'r llyfr safonol i arweinwyr mynydd yn y Gymraeg, Mynydda, gan y Gweinidog Treftadaeth Alun Ffred Jones. Cyfiethiad yw hwn o waith gwreiddiol Steve Long a staff Plas y Brenin, Hillwalking - gyda rhagair arbennig gan Bob Puw, cadeirydd Y Bwrdd Golygyddol. Gwerthwyd nifer fawr o gopiau ar unwaith.

Lluniau gan Haf Meredydd ar Fflickr