HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Ladakh, India Awst 2009


Taith answyddogol gan Y Cadeirydd a rhai aelodau eraill

Ladakh - Gogledd Gorllewin India. Yn ffinio â China, Tibet, Kashmir a Pakistan.

14 ohonnym yn cerdded cylchdaith Dyffryn Markha. 12 ohoonnym yn dewis i ddringo Stok Kangri 6153 m ar ddiwedd y trec. Roeddem yn cerdded / dringo am 9 diwrnod.

Hedfan o Delhi i Leh 3,500 m ac aros tridiau yma i arfer hefo'r aer tenau gan ymweld â sawl teml. Taith cynefino i fyny Kardung La mewn cerbydau bach simsan yr olwg a'r lonydd cul iawn heb ddim byd i'ch atal fynd dros y dibyn.
Hefyd aethom dros y bwlch unwaith eto ar ddiwedd y trec i Dyffryn Nubra. Taith hir a blinedig i Dyffryn Nubra.

Cychwyn y daith o pentref Spitok ger yr afon Indus hefo 24 o geffylau yn cario'r pebyll ac ati. Dringo dau fwlch uchel sef y Gondo La 4,940 m ac i lawr i Dyffryn Markha gan ddilyn yr afon Markha ac i fyny y bwlch Gongmaru La 5,200 m ac yna i lawr at yr afon Shang, lle bu cerbydau yn ein cludo i bentref Stok i droed Stok Kangri. Dau ddiwrnod o gerdded i B.Camp tua 5000 m a penderfynu ei ddringo o'r fan hyn y diwrnod canlynol gan fod amser yn brin a'r tywydd yn troi. Cyrraedd yn ol i Leh a mynd i weld gwasanaeth arbennig gan y Dalai Lama. Cyfle hefyd i raftio ar yr afon rewllyd Zanskar cyn hedfan ymlaen i weld y Taj Mahal ac ymweld a Jaipur.

cwmni Kamal Tamang ein ffrind o Nepal ddaru drefnu y daith Ladakh, sef Nepal Worldlink Adventure

Adroddiad gan Morfudd Thomas

Lluniau gan Morfudd Thomas ar Fflickr

Lluniau
Croesi afon Markha yn Ladakh, India
Dyffryn Markha a dringo Stok Kangri 6,153 mtr 1
Dyffryn Markha a dringo Stok Kangri 2
Dyffryn Markha a dringo Stok Kangri 3
Dyffryn Markha a dringo Stok Kangri 4
Ladakh a Stok Kangri 1
Ladakh a Stok Kangri 2
Ladakh a Stok Kangri 3
Llun o Ddyffryn Markha
Golygfeydd ger copa Stok Kangri
Copa Stok Kangri 6,153 m
Noson olaf yn gwersyll B.C Stok kangri
B.Camp bore ar ol dringo Stok Kangri
Mynachdy yn Leh, Ladakh
Cartref Y Dalai Lama - roeddem yn lwcus o'i weld yn cynnal gwasanaeth
Mynachdy y Palas Potala bach
Ar gopa lôn Kardung La rhwng Ladakh, India a Pakistan a Tibet
Dyffryn Markha
Dull da o ferwi tegell!
Corlan yn mhell o unrhyw bentref yn Dyffryn Markha
Gwersyll Nimaling ger bwlch Gongmaru La 5,200 m
Edrych i lawr o fwlch Gaongmaru La
Teml yn Leh, Ladakh
Leh, Ladakh
Reidio camelod - yn Dyffryn Nubra - anghyfforddus iawn!
Taj Mahal Agra India hefo fy chwiorydd