HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Lili'r Wyddfa - Clogwyn Du'r Arddu 31 Mai


Taith ar y cyd, Clwb Mynydda Cymru a Chlwb Dringo Porthmadog

Tywydd, Heulog ac awel ysgafn.

Nifer: 24 a Pico!
Enwau: (Yn sefyll) Medwyn, Dewi, Tom, Harold, Twm, Anet, Elisabeth, Ann, Tegwen, Bert, Glanfor, Mark, Iona, John, Arwyn. (Eistedd) Delyth, Iola, Gwen, Gerallt, Elinor, Haf (a Pico), Avis, Lis, Huw. (O'r chwith i'r dde yn y ffim toto, uchod! )

Cyfarfu pawb ar lan Llyn Cwellyn a dringo i Fwlch Cwm Brwynog. Ar y ffordd cafwyd cyfeiriadau botanegol a hanesyddol gan yr arweinydd a pherlau llenyddol gan Dewi. Bu Harold yn hael ei wybodaeth am chwarel Glanrafon a'r gweithfeydd copr cyfagos. Cafwyd cinio ger Maen Du'r Arddu ac yna mi gychwynnwyd ar y 'sbrotian'. Gwelwyd tormaen serennog, clust llygoden Alpaidd a phawen y gath cyn disgyn tua'r nant sy'n llifo i Lyn Du'r Arddu. Yno gwelwyd tywodlys, clustog Fair a blodau'r gwynt. Cafwyd crynodeb o hanes Joe Brown a'i gyfoedion ar Glogwyn Du'r Arddu gan Glanfor a Dewi. Soniodd Harold am waith copr Clogwyn Coch ac ymdrechion Stad y Faenol i dynnu cyfoeth o grombil y mynydd. Yn yr eiliadau tawel bu Haf yn tynnu ein sylw at dinwen y garn a mwyalchen y mynydd oedd a'i chwiban i'w chlywed yng nghyffiniau'r clogwyn. Yn goron ar y cyfan, roedd chwech Lloydia serotina yn eu blodau wrth droed Clogwyn Du'r Arddu.

Adroddiad gan Gerallt Pennant

Lluniau gan Gerallt Pennant ar Fflickr