HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Moel Emoel a Foel Goch 31 Ionawr


Naw ohonom ddaeth at eglwys Llanfor ar fore Sadwrn olaf mis Ionawr - Gareth, Gaynor, Ceri, Alwen, John Arthur, Alan Machynlleth, Ann Till, Sioned a'r arweinydd

(efo ymddiheuriadau gan Rhodri, Dylan a Morfudd !). Bore sych a chlir ond efo bygythiad o wynt cryf ar y copaon. Cerdded hamddenol i gychwyn dros hen gaeau a heibio coedwigoedd tywyll cyn dringo i ben Moel Emoel erbyn amser 'paned. Y gwynt yn oer ond golygfeydd da a chrin drafod ar ba fynyddoedd yn union oedd i'w gweld tua'r gogledd. Draw wedyn am y Garnedd Fawr ac ar hyd y gefnen at Foel Goch gan gofio hanes gwasgaru llwch yr ysgolhaig Romani John Sampson yn 1931. Wedi cael hyd i ychydig o gysgod rhag y gwynt at ginio dilyn yr hen lwybr trol (gwlyb!) i lawr at Bentre' Tai'n y Cwm, hen gartre' Ifor Owen, a chael sgwrs ar y buarth yno efo Eirwyn, Nerys a Sioned (perthnasau Dyfir). Yn ôl i Lanfor wedyn dros Ros Dawel a heibio ffermdy gwag Ty'n y Ffridd. Cyn mynd at y ceir ymweld â mynwent eglwys Llanfor i gael golwg ar fawsolëwm teulu'r Rhiwlas a godwyd efo enillion R.J. Lloyd Price ar y ceffyl rasio Bendigo. Hyd y daith 17 km. Diwrnod da!

Adroddiad gan Llew ap Gwent

Lluniau gan Llew ap Gwent ar Fflickr

Lluniau
1: Copa Moel Emoel
2: Arenig Fawr, Arenig Fach a Llyn Celyn
3: Foel Goch
4: Copa Foel Goch
5: Y Ddwy Aran a Llyn Tegid
6: Mawsolewm eglwys Llanfor.