HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Uchelderau'r Golan 29 Rhagfyr


Taith Nadoligaidd

O ystyried y tywydd cryn syndod i Delyth a finnau oedd gweld fod deunaw wedi dod i grwydro yn ardal Golan Eifionydd ar y daith flynyddol i geisio cael gwared a’r calorïau Nadoligaidd. Dim y daith arferol ganol wythnos hefo’r hynafgwyr hynafol a llesg oedd hon. ‘Roedd Dafydd Meurig wedi perswadio tair o ferched ifanc i ymuno a ni ac offer pwrpasol iawn ar gyfer y daith gan ddwy ohonynt sef “Wellingtons”.

Cychwyn o ganolfan Golan (yr hen Ysgol) a chymryd y llwybr cyfochrog i gyfeiriad Pandy Clenenney a dilyn y llwybr i gyfeiriad Pen-y-clogwyn ac yna Bryn-dewrog. Dilyn y grib wedyn i gyfeiriad Isallt golygfeydd i gyfeiriad Cwm Ystradllyn a Chwm Pennant o fan yma. Wedyn i lawr y ffordd a chymryd y llwybr drwy Feudy Parc at y bont droed dros afon Dwyfor. Cyfle i gael panad a manteisio ar yr ychydig gysgod yma a chyfle i’r ffotograffydd teithiol Gerallt Pennant gymryd llun neu ddau neu dri neu…. Ar ôl cael llun o’r grŵp i gyd wrth eglwys Llanfihangel-y-pennant arweiniodd Delyth saith ar daith fyrrach yn ôl at y ceir.

Felly unarddeg ohonom a fentrodd ar ran olaf y daith. Mynd dros Bont Gyfyng a thrwy chwarel Moelfre yma ’r oedd modd gweld y llwybr a gymerwyd yn gynharach a Moel Hebog yn wyn a dan gwmwl tywyll. Cerdded drwy dir gwlyb at Fwthyn unig sef Cae Amos. Cysgod go lew yn fan yma felly panad arall cyn dilyn y llwybr drwy’r gors a’r goedwig i chwarel Hendre-Ddu. Llwybr sych o’r diwedd i’r ffordd ger pont y Lodge. Dilyn glannau afon Dwyfor wedyn a chroesi'r bont droed dros afon Henwy at Dyddyn Madyn. Mymryn o gerdded ar hyd y ffordd fawr wedyn yn ôl at y ceir yno tua thri o’r gloch.

Trychineb!! Y caffi ym Mryncir wedi cau dros fisoedd y gaeaf a Maldwyn wedi addo paned ar ddiwedd y daith yn yr hysbyseb yn rhaglen y clwb. Trist Iawn “Feri Sad” a dim mins peis gan y tywyswyr chwaith!

Adroddiad gan Gwyn (chwilog)

Lluniau gan Gerallt Pennant ar Fflickr