HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Dringo Glyderau 20 Mehefin


Wel, roedd rhagolygon y tywydd yn edrych yn ffafriol yn ystod yr wythnos, ond dyma gyrraedd Dyffryn Ogwen gyda'r cymylau yn isel a'r glaw y disgyn.

Felly i ffwrdd ag Anita, Sian, Kate, Jeremy, Alwyn, Gareth a finnau am Heather Terrace ar wyned Dwyreiniol Tryfan a scramblo i fyny Little Gully, gan gynorthwy criw arall oedd i weld yn cael tipyn o drafferth gyda darllen eu map.

Ar y copa, dyma benderfynu mynd i lawr am Bwlch Tryfan ac wedyn i fyny Bristly Ridge gan gyrraedd copa Glyder Fach i gael tynnu mwy o luniau yn y niwl. Aeth Sian, Anita, Gareth ag Alwyn wedyn i lawr yn ôl i Fwlch Tryfan ag wedyn am adref, tra yr aeth Jeremy, Kate a finau ymlaen i gopa Glyder Fawr ac wedyn i lawr Y Gribyn.

Er fod y tywydd yn siomedig, cafwyd diwrnod da o sgramblo gyda pawb yn mynd adref yn hapus er ychydig yn flinedig.

Diolch i Anita am drefnu ag am gario'r rhaff drwy'r dydd.

Adroddiad gan Dilwyn

Lluniau gan Dilwyn ar Fflickr