HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Moel Ddu 18 Ebrill


Deg wedi cyfarfod ar fore braf, sef Morfudd, Haf M, Eleri Williams, Gwyn W (Chwilog), Gwyn W (Llanrwst), Gwilym Jackson, Llew, John Arthur, Arfon a finnau.

Ar gais ein Cadeirydd, addasu bach ar y cynllun i greu is-adran y Clwb - sef ‘hel achau’! Cychwyn yn Prenteg felly, i fyny at Gae’r Gors, Tŷ’n Mynydd, Aberdeunant, Gorllwyn Uchaf ac wedyn Tai Cochion. Darganfod yma fod hynafiaid Morfudd a Dyfir wedi ymfudo oddi yma i’r Wladfa yn yr 1880au - dipyn o newid.

Fyny’r wal i gopa Moel Ddu, a dadl p’run ai brân neu lwynog laddodd oen (cynnes). Gwynt oer ond clir a braf ar y copa. I lawr i’r bwlch am ginio, wedyn dros Bryn Bannog a dewis ‘osgoi’ Hebog! Lawr am Dreforys gan ddychmygu beth fuasai pnawn Sadwrn gwanwyn debyg yma pan yn ei anterth. Tros argae ’Stradllyn, Llyn Du, Hendre Selar, Tŷ Mawr, Pant Ifan a Thremadog. Dim sôn am y gog yn unlle.

Adroddiad gan John Williams

Lluniau gan Haf Meredydd ar Fflickr

1
2
3
4 - Tai Cochion, Morfudd â chysylltiad teuluol
5 - Tai Cochion, Morfudd â chysylltiad teuluol
6 - Tai Cochion, Morfudd â chysylltiad teuluol
7 - Neb adra!
8
9 - Edrych i lawr dros y Traeth Mawr
10 - Ein harweinydd a'i ddwy sbectol!
11 - Tîm ffoto (heblaw HM)
12 - Twll defaid yn un ffordd o groesi clawdd!
13 - Twll defaid yn un ffordd o groesi clawdd!
14 - Twll defaid yn un ffordd o groesi clawdd!
15 - Twll defaid yn un ffordd o groesi clawdd!
16 - Stryd Treforys, Cwm Ystradllyn
17 - Stryd Treforys, Cwm Ystradllyn
18
19 - Pant Ifan