HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Dringo ar Moel y Gest 18 Ebrill


13 ohonom yn cyfarfod yng nghaffi Eric Jones ar fore heulog braf.

Janet, Arwel, Alan, Anita, Kate, Rhodri, John Parry, Jeremy, Gwyn, Cliff, Nia, Guto a finau.

Ar ol cael paned, penderfynwyd dianc oddiwrth prysurdeb Blwch y Moch drwy fynd i fyny Moel y Gest i ddringo ar Mainmast Buttress. Ychydig o droi trwyn i ddechrau wrth gysidro bod angen cerdded am hanner awr cyn cyrraedd y clogwyn, ond pawb wedi cynhesu trwyddynt erbyn cyrraedd y top!

Cafwyd diwrnod llwyddianus gyda nifer helaeth o ddringfeydd yn cael eu cwblhau ac wedyn ail ymgynull yn y Fleece yn Nhremadog am beint i orffen.

Mi fydd y sesiwn dringo nesaf ar Garnedd y Filiast, dydd Sadwrn 2ail o Fai. Cyfarfod ym maes parcio gyferbyn a gorsaf heddlu Bethesda CG: SH 623 666, am 9:15am.

Adroddiad a lluniau isod gan Dilwyn

Lluniau gan Dilwyn (1-6) a Guto Evans ar Fflickr

  1. Gwyn ar Moneky's Island Super Direct
  2. Pwy sydd di prynu sgidiau dringo newydd?
  3. John Parry, Nia a Guto ar Signal Bridge
  4. Kate ar abseil
  5. Arwel ar The Crow's Nest
  6. Cartref un o'r trigolion lleol