HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Cader Idris 15 Tachwedd


Taith drannoeth y cinio a Chyfarfod Blynyddol

Mentrodd 6 allan i Gader Idris fore Sul drannoeth y Cyfarfod Blynyddol, sef Myfyr, Gwen, Jeremy, Emlyn, Elgan a Llion.

Cychwyn fyny Llwybr Tŷ Nant a thorri ar draws i Lyn y Gadair mewn glaw mân a chymylau isel. Cinio cynnar yng nghanol glaw/monsŵn (ddim yn hwyl erbyn hyn!) a dod i'r canlyniad mai ar i lawr oedd pia hi. Yn ol yn y maes parcio erbyn 2.

Arweinydd ac Adroddiad: Myfyr Tomos

Lluniau gan Myfyr ar Fflickr