HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Cylchdro Cwm Cynfal 14 Mehefin


Roedd taith Dydd Sul, Mehefin 14eg, yn hynod o ddifyr efo Alwen a Ceri yn ein tywys drwy geunant afon Cynfal, heibio Llan Ffestiniog ac ar hyd yr hen ffordd i fyny i gyfeiriad Pont yr Afon Gam. Croesi’r ffordd fawr wedyn, heibio Llyn Morwynion ac i lawr drwy Gwm Teigl at ddiwedd y daith yn Rhyd y Sarn.

Diwrnod perffaith o haf cynnar a gwybodaeth leol Ceri ac Alwen yn ein diddori. Da iawn oedd gweld Gwen Rhuthun eto a chael cwmni aelod newydd, sef Marian o Flaenau Ffestiniog sydd yn gweithio efo Alwen yn Ysgol y Moelwyn. Pump oedd y daith felly, a hynny’n syndod ar ddiwrnod mor braf.

Diolch i Alwen a Ceri am ein tywys.

Adroddiad gan Llew ap Gwent

Lluniau gan Llew ap Gwent ar Fflickr