HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Cwm Tawe 14 Mawrth


Fan hir, Picws Du, Disgwylfa, Carreg Goch.

13 wedi cwrdd ar fore braf am daith gymhedrol yn y bannau orllewynol.

Dechrau am 9.30 ac yn dringo yn sydyn i fyny at gopa Fan Hir. Paned fach ym Mwlch y Giedd i gael cysgod o’r gwynt oer a mwynhau yr olygfa draw i’r dwyrain am Ben y Fan a Chorn Du. Tynnu llun ar ben Picws Du (copa Sir Gaerfyrddin) ac ymlaen am Waun Lefrith cyn troi i’r de a chael cinio wrth ochr Nant Lluestrau. Ambell un yn cael nap, falle fod y cerdded yn rhy galed! Bwrw mlaen ar daith at Bwll y Cig (lle da i wersylla) a cherdded i lawr at Sinc y Giedd lle mae’r afon yn mynd nol i mewn i’r mynydd. Paned fach cyflym a dringo Disgwylfa cyn talu teirnged i griw awyren MF509 a gafodd damwain yn ystod yr ail rhyfel byd, lladdwyd y criw o Ganada i gyd (gweler y linc).

Bwrw ‘mlaen am y car ond oedd rhai yn teimlo yn rhy gynnes ac eisiau cael dip yn yr afon Haffes. Cyrraedd nol yn y maes parcio am 4.30. Diwrnod da, tywydd ardderchog a chwmni oedd ddim wedi camfihafio gormod.

Adroddiad gan Guto Evans

Lluniau gan Guto Evans ar Fflickr