HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Dringo - Canolfan Boulders, Caerdydd 10 Hydref


Un o drefniadau'r Diwrnod Blasu

Trefnodd Rhian Huws Williams a Rhys Dafis ddiwrnod o hyfforddiant yng nghanolfan Boulders, Caerdydd, a llwyddwyd i lenwi dau grŵp o 6, gyda chymorth a dawn berswâd ryfeddol Dafydd Meurig (mab John Parry). Dysgwyd am hanfodion dringo – diogelwch, harnesu, rhaffu, belai, ac ati – gan fwrw ati wedyn i herio’r clogwyni o ddringfeydd (o bob llun a gradd) sy’n gwneud y ganolfan hon yn feithrinfa ddringo mor ardderchog. Ymysg y criw ifanc brwdfydig, roedd ambell un yn amlwg o dras pry copyn!

Yn dilyn y cwrs, penderfynwyd i ddal ati, ac i gwrdd yn gyson fel ‘Criw Dringo Caerdydd’ yn enw CMC. Mae nifer o’r Criw am ddringo tu allan hefyd, a dod i fynydda. Ers y cwrs, cysylltodd sawl un arall sydd am ymuno. Mae dyddiadau cyntaf Criw Dringo Caerdydd yn y Calendr.

Adroddiad gan Rhys Dafis

Lluniau gan Rhys Dafis ar Fflickr