HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Pen y Fan 10 Hydref


 

Un o drefniadau'r Diwrnod Blasu

Daeth dwsin o ddisgyblion Blwyddyn 12 ac athrawon o Ysgol Gyfun Gymraeg Gartholwg (ger Pontypridd) efo Peredur Evans (Pwt) a John Rowlands i wneud pedol Pen y Fan o argae Neuadd. Buan yr aeth tuchan y codiad cyntaf i Graig Fan Ddu yn angof wrth frasgamu ar hyd Rhiw’r Ysgyfarnog, drwy Fwlch Duwynt i Gorn Du a Phen y Fan, a’r tywydd mor braf. Erbyn Cribyn, roedd y ddau arweinydd yn cael trafferth i gadw i fyny efo’r coesau ifanc! Diwrnod llwyddiannus, a sôn am ddod eto.

Adroddiad gan Rhys Dafis

Dim lluniau eto - oes ganddoch chi rai?