HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Ymarfer techneg rhew, Cwm Idwal 10 Ionawr


Roedd yr eira wedi hen ddiflannu ond roedd yna ddigon o iâ ar ôl yng Ngwm Idwal i gael diwrnod da o ymarfer techneg rhew o dan arweiniad profiadol Geraint.

Ar ôl llithro ar nifer o blymenod rhew ar y llwybr i Gwm Idwal braf oedd cael rhoi y cramponau ymlaen ar waelod Nant Cwm Idwal . Wedi ychydig o ymarfer dyma benderfynu dringo gwely'r nant at y ddrengen gyntaf lle gosododd Geraint raff i ni gael ymarfer dringo ar flaen ein cramponau.

Cafwyd llawer o hwyl yn dringo hefo'r Pryfid DMM, gosod sgriwiau rhew ac edafau Abalakov!

Diwrnod penigamp.

Diolch i Geraint am rannu ei arbennigedd.

Adroddiad gan Arwel

Lluniau gan Arwel, Guto Evans a Maldwyn Roberts ar Fflickr