HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Cwmorthin a Moel yr Hydd 9 Rhagfyr


Bore tamp yn Nhanygrisiau ar y topie. 11 yn cychwyn - Anet, Haf, Mary Lloyd, Siân Wms, Gwyn Chwilog, John Arthur, Gwilym Jackson, Jeremy, John P, Llew, John Williams. Ar hyd glannau'r llyn ac i fyny'r creigiau ar ochr ddwyreiniol Moel yr Hydd - braidd yn wlyb oedd y garreg ond digon o 'ddifyrrwch', meddai rhai! Gwynt cryf ar gopa Moel yr Hydd - dim golygfa. Ymlaen at Foel Ddu i weld dipyn bach mwy ac i lawr i Rhosydd i ginio.

Pleidlais 'ddemocrataidd' wedyn, a'r bedol yn troi'n hanner pedol, gan fod caffi a phaned yn denu, a'i bod hi yn Nadolig!

Adroddiad John Williams

Lluniau gan Haf ar Fflickr a diolch iddi!

Eglurhad o rai o'r lluniau:

  1. Cyrraedd Chwarel y Rhosydd yn y niwl
  2. Tîm ffoto - yr 11 yn Chwarel y Rhosydd
  3. Yr olygfa i lawr Cwm Orthin
  4. Mynd heibio hen Gapel Cwm Orthin
  5. Trên adra! (Rhan o furlun gan blant Ysgol Tanygrisiau yn y caffi)